Gwendolen Mason
telynores Gymreig
Telynores o Gymru oedd Gwendolen Mason, OBE (24 Mai 1883 – 2 Gorffennaf 1977).[1] Roedd hi'n ddisgybl i John Thomas (Pencerdd Gwalia).[2]
Gwendolen Mason | |
---|---|
Ganwyd | 24 Mai 1883 |
Bu farw | 2 Gorffennaf 1977 Rhydychen |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | telynor |
Priod | Philip Sainton |
Gwobr/au | OBE |
Cafodd Gwendolen ei geni ym Mhorthaethwy,[3] yn ferch i John Eilan Mason Parry a'i wraig Sarah. Ym 1913 hi oedd y telynores cyntaf i berfformio yr Introduction et allegro pour harpe, flûte, clarinette et quatuor gan Maurice Ravel yn y DU. Priododd y cyfansoddwr Philip Sainton ym Ebrill 1915.[4]
Roedd hi'n athrawes yn Yr Academi Gerdd Frenhinol o hyd 1959.[5] Ymhlith ei disgyblion roedd Gwendoline a Margaret Davies,[3] Shân Emlyn Jones ac Osian Ellis. Roedd hi'n aelod gwreiddiol o'r Cymdeithas Telynorion y Deyrnas Unedig (United Kingdom Harpists Association, 1964).[2] Bu farw yn 93 oed.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 British Music Yearbook (yn Saesneg). Classical Music. 1980. t. 31. ISBN 978-0-7136-1963-8.
- ↑ 2.0 2.1 Roslyn Rensch (27 February 2017). Harps and Harpists, Revised Edition (yn Saesneg). Indiana University Press. t. 171. ISBN 978-0-253-03029-0.
- ↑ 3.0 3.1 Ian Parrott (1969). The Spiritual Pilgrims (yn Saesneg). C. Davies. t. 34. ISBN 978-0-7837-7302-5.
- ↑ The Times, 25 Mawrth 1915, p 11
- ↑ "A Musical Life - Overview". David Watkins (yn Saesneg). Cyrchwyd 18 Ionawr 2021.