Otto Freundlich
Peintiwr a cherflunydd o dras Iddewig o'r Almaen oedd Otto Freundlich (10 Gorffennaf 1878 – 9 Mawrth 1943). Roedd yn un o'r genhedlaeth gyntaf o arlunwyr haniaethol.
Otto Freundlich | |
---|---|
Ganwyd | 10 Gorffennaf 1878, 1878 Słupsk |
Bu farw | 9 Mawrth 1943, 1943 Majdanek concentration camp |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth yr Almaen, yr Almaen |
Galwedigaeth | cerflunydd, arlunydd, drafftsmon, arlunydd graffig, artist |
Arddull | celf haniaethol |
Mudiad | celf haniaethol |
Bywyd
golyguGanwyd Otto Freundlich yn Stolp, Pomerania, Prwsia; fe astudiodd i fod yn ddeintydd cyn penderfynu troi yn artist. Fe aeth i Paris yn 1908, gan fyw ym Montmartre yn agos i Pablo Picasso, Braque ac eraill.
Yn 1914 dychwelodd i'r Almaen. Ar ôl y Y Rhyfel Byd Cyntaf, ddaeth yn amlwg fel aelod gweithgar o'r grŵp gwleidyddol/artistig Novembergruppe (Grŵp Tachwedd). Ym 1919, fe drefnodd yr arddangosfa Dada cyntaf yn Cwlen (Cologne) gyda Max Ernst a Johannes Theodor Baargeld. Yn 1925 ymunodd a'r grŵp Abstraction-Création.
Ar ôl 1925, fe wnaeth Freundlich fyw yn Ffrainc yn bennaf. Yn yr Almaen, cafodd ei waith ei gondemnio fel Entartete Kunst ('celf ddirywiedig') gan y Natsïaid a'i atal rhag ei arddangos yn gyhoeddus.
Cafodd rhai o'i weithiau eu cipio a'u cynnwys yn yr arddangosfa enwog o Entartete Kunst yn cynnwys ei gerflun Der Neue Mensch ('Y dyn newydd'); cafodd ffotograff sarhaus o'r cerflun ei ddefnyddio ar glawr catalog yr arddangosfa. Ni chafodd Der Neue Mensch byth a'i ail-ddarganfod a chredir iddo gael ei falu. Cafodd un o'i gerfluniau eraill ei harcheb mewn cloddio ym Merlin a'i arddangos yn y Neues Museum.[1][2][3]
Tra ym Mharis, fe ddaeth yn aelod o'r Union des Artistes Allemandes Libres.[4] Pan dechreuodd yr Ail Ryfel Byd, cafodd Freundlich ei garcharu gan awdurdodau Ffrainc ond wedyn ei rhyddhau am gyfnod diolch i ddylanwad Pablo Picasso. Ym 1943 cafodd ei arestio a'i gludo i Garchar Gwersyll Majdanek, Gwlad Pwyl, lle cafodd ei lofruddio'r diwrnod y cyrhaeddodd.
Ffilm Ddogfen
golyguEr i Otto Freundlich gael i ddiystyru ers cael ei erlid gan y Natsiaidd, yn 2012 fe wnaethpwyd ffilm ddogfen Das Geht Nur Langsam (Mae'n Cymryd Amser) Archifwyd 2014-08-04 yn archive.today am ei weledigaeth o adeiladau strydoedd o gerfluniau yn rhedeg trwy Ewrop, yn symbol o'i obaith am gyfeillgarwch y byd.
-
Otto Freundlich Mein roter Himmel (Fy nefoedd goch), 1933
-
Otto Freundlich Komposition (1938)
-
Clawr catalog yr arddangosfa 'Celf Ddirywiedig', 1937, a drefnodd y Natsïaid. Mae'r clawr yn dangos ffotograff o gerflun 'Y dyn newydd' gan Otto Freundlich, Iddew a lofruddiwyd ganddynt.
-
Cofeb i Otto Freunlich, St. Wendel.
-
Cerflun Maria Euthymia Platz, Münster
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Erthygl Associated Press 8 Tachwedd 2010[dolen farw]
- ↑ "Buried in a Bombed-Out Cellar: Nazi Degenerate Art Rediscovered in Berlin" Der Spiegel (Awst 11, 2010)
- ↑ "Photo Gallery: Sensational Find in a Bombed-Out Cellar" Der Spiegel (Awst 11, 2010)
- ↑ Siegfried Gnichwitz, "Heinz Kiwitz: gekämpft · vertrieben · verschollen" Archifwyd 2012-11-20 yn y Peiriant Wayback (PDF) Stiftung Brennender Dornbusch. Folder from an exhibition in honor of the 100th anniversary of Kiwitz' birth. Liebfrauenkirche, Duisburg (Tachwedd 7 – Rhagfyr 5, 2010), p. 5. Casglwyd Chwefror 10, 2012 (Almaeneg)