Otto Jespersen
Ieithydd Daneg ac arbennigwr ar yr iaith Saesneg oedd Otto Jespersen (16 Gorffennaf 1860 - 30 Ebrill 1943). Fe'i ganed yn Randers yng ngogledd Jutland, a mynychodd Brifysgol Copenhagen, lle astudiodd Saesneg, Ffrangeg a Lladin. Treuliodd adeg yn astudio yn Rhydychen hefyd. Athro Saesneg oedd ef ym Mhrifysgol Copenhagen o 1893 tan 1925. Yno sefydlodd y Gymdeithas Seinegol Ryngwladol. Roedd ei brif weithiau megis Growth and structure of the English language (1905) ac A modern English grammar on historical principles (1909–49), yn ymdrin â strwythur a hanes y Saesneg. Roedd hefyd yn ymddiddori mewn prosiectau i greu ieithoedd rhyngwladol artiffisial megis Ido a Novial.
Otto Jespersen | |
---|---|
Ganwyd | 16 Gorffennaf 1860 Randers |
Bu farw | 30 Ebrill 1943 Roskilde, Copenhagen |
Dinasyddiaeth | Brenhiniaeth Denmarc |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | ieithydd, Esperantydd, hunangofiannydd, addysgwr, llenor, academydd, siaradwr Ido, Saesnegydd, athronydd |
Swydd | rheithor |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Social Democrats |
Gwobr/au | Volney Prize, Marchog Urdd y Dannebrog, Doethur Anrhydeddus Prifysgol Columbia, doethur anrhydeddus Prifysgol St Andrews, doctor honoris causa from the University of Paris |
Prif weithiau Jespersen
golygu- The articulations of speech sounds represented by means of analphabetic symbols (Marburg, 1889)
- Fonetik, en systematisk fremstilling af læren om sproglyd (København, 1897–9) (cyfieithwyd i'r Almaeneg fel Lehrbuch der Phonetik (Leipzig, 1904))
- Growth and structure of the English language (Leipzig, 1905)
- A modern English grammar on historical principles (Heidelberg, 7 cyf., 1909–49)
- Negation in English and other languages (København, 1917)
- Language : its nature, development and origin (1922)
- The philosophy of grammar (Llundain, 1924)
- Mankind, nation and individual from a linguistic point of view (Oslo, 1925) (cyhoeddwyd yn Ddaneg fel Menneskehed, nasjon og individ i sproget (Oslo, 1925))
- An international language (Llundain, 1928) (cyflwyniad i'r iaith Novial)
- Essentials of English grammar (Llundain, 1933)
- Analytic syntax (Llundain, 1937)
- En sprogmands levned (København, 1938) (Ei hunangofiant) (cyfieithwyd i'r Saesneg fel A linguist's life (Odense, 1995))
- Efficiency in linguistic change (København, 1941)