Oud
Mae'r oud yn offeryn cerdd Arabaidd tebyg i'r liwt, sydd yn arbennig o boblogaidd yn y Maghreb (gogledd Affrica).
Enghraifft o'r canlynol | traddodiad, math o offeryn cerdd |
---|---|
Math | necked bowl lutes sounded by plectrum |
Gwlad | Yr Aifft |
Gwladwriaeth | Irac |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cenir yr oud fel offeryn unigol, mewn cyfeiliant i lais neu leisiau, neu yn y gerddorfa Arabaidd draddodiadol. Yn yr achos olaf mae cerddoriaeth Malouf Tiwnisia, sy'n cyfuno dylanwadau Arabaidd a Andaliwsiaidd, yn enghraifft dda o ddefnyddio'r oud mewn cerddorfa â lleisiau.