Oued Ed-Dahab-Lagouira
Un o 16 rhanbarth Moroco yw Oued Ed-Dahab-Lagouira (Arabeg: وادي الذهب لكويرة), yng Ngorllewin Sahara. Mae gan y rhanbarth arwynebedd o 142,865 km² a phoblogaeth o 99,367 (cyfrifiad 2004). Dakhla (hen enw Sbaeneg: Villa Cisneros) yw'r brifddinas, ar lan Cefnfor Iwerydd.
Math | former region of Morocco |
---|---|
Prifddinas | Dakhla |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Moroco |
Gwlad | Moroco |
Uwch y môr | 326 metr |
Cyfesurynnau | 23°N 15°W |
MA-16 | |
Fe'i lleolir yn nhiriogaeth ddadleuol Gorllewin Sahara, sy'n cael ei ystyried gan lywodraeth Moroco yn rhan o diriogaethau deheuol y wlad honno. Ond mae'r Polisario a mudiadau Sahrawi eraill yn ystyried y rhanbarth yn rhan o Weriniaeth Ddemocrataidd Arabaidd Sahrawi. Nid yw'r Cenhedloedd Unedig yn cydnabod hawl Moroco ar sofraniaeth yr ardal na chwaith y weriniaeth Sahrawi.
Mae'r rhanbarth yn cynnwys un préfecture ac un dalaith:
- Préfecture Aousserd
- Talaith Oued Ed-Dahab
Mae'n ardal sych, lled-anial, ar ymyl gorllewinol y Sahara. Mae mwyafrif y boblogaeth yn byw ar yr arfordir ac yn cynnwys nifer o Forocwyr sydd wedi cael eu hannog i ymfudo i'r diriogaeth gan y llywodraeth; er mwyn eu denu, mae trethi yn is o lawer yma nac yng ngweddill Moroco.
Dolenni allanol
golygu- (Ffrangeg) Gwefan swyddogol Oued Ed-Dahab-Lagouira Archifwyd 2009-02-02 yn y Peiriant Wayback