Tanger-Tétouan
Un o 16 rhanbarth Moroco yw Tanger-Tétouan (Arabeg: طنجة تطوان). Fe'i lleolir yng ngogledd-orllewin Moroco rhwng Cefnfor Iwerydd i'r gorllewin a'r Môr Canoldir i'r dwyrain, a gysylltir gan Gulfor Gibraltar. Mae ganddo arwynebedd o 11,570 km² a phoblogaeth o 2,470,372 (cyfrifiad 2004). Tanger (Tangier) yw'r brifddinas.
Math | former region of Morocco |
---|---|
Prifddinas | Tanger |
Daearyddiaeth | |
Sir | Moroco |
Gwlad | Moroco |
Arwynebedd | 11,570 km² |
Cyfesurynnau | 35.77°N 5.8°W |
Mae'r rhanbarth yn wynebu Sbaen dros Gulfor Gibraltar ac yn ffinio gyda thiriogaeth Sbaenaidd Ceuta.
Mae Tanger-Tétouan yn cynnwys y taleithiau a préfectures a ganlyn:
- Préfecture Fahs Anjra
- Préfecture Tanger - Asilah
- Préfecture Tétouan
- Talaith Chefchaouen
- Talaith Larache
Dinasoedd a threfi
golyguGweler hefyd
golygu