Mae Oumar Niasse (ganwyd 18 Ebrill 1990) yn beldroediwr sy'n chwarae i C.P.D. Dinas Caerdydd ar fenthynciad o Everton F.C. Mae'n enedigol o Ouakam, Senegal.

Oumar Niasse
Ganwyd18 Ebrill 1990 Edit this on Wikidata
Ouakam Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSenegal Edit this on Wikidata
Galwedigaethpêl-droediwr Edit this on Wikidata
Taldra182 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau82 cilogram Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auUS Ouakam, SK Brann, Akhisar Belediyespor, FC Lokomotiv Moscow, Everton F.C., Senegal national under-23 football team, Tîm pêl-droed cenedlaethol Senegal, Tîm pêl-droed cenedlaethol Senegal, Hull City A.F.C., C.P.D. Dinas Caerdydd Edit this on Wikidata
Saflehanerwr asgell Edit this on Wikidata

Gyrfa Clwb golygu

Ouakam golygu

Llofnododd ei gytundeb proffesiynol cyntaf gydag Ouakam yn 2008 ac yn nhymor 2008-09, helpodd ei dîm i ennill teitl yr Ail Gynghrair trwy sgorio 21 o nodau.

Akhisar Belediyespor golygu

Ymunodd â gwersyll haf Clwb Süper Lig Twrcaidd Akhisar Belediyespor a llofnodwyd ef yn barhaol gyda nhw ym mis Awst 2013. Sgoriodd Niasse ar ei gem gyntaf yn Nhwrci, a gorffenodd y tymor gyda 15 o goliau.

Lokomotiv Moscow golygu

Cyn tymor 2014-15, llofnododd Niasse â chlwb Rwsia Lokomotiv Moscow yng Ngorffennaf 2014 am ffi trosglwyddo o € 5.5 miliwn

Everton golygu

Ymunodd Niasse â chlwb Uwch Gynghrair Lloegr Everton F.C. ar 1 Chwefror 2016 am ffi drosglwyddo o tua £ 13.5 miliwn. Ym mis Hydref 2016, cafodd Niasse ei osod yn y sgwad dan 23 ac fe gafodd ei locer personol ei ddirymu.

Hull City golygu

Ar 13 Ionawr 2017, llofnododd Niasse gytundeb ar fenthyg gyda Hull City tan ddiwedd tymor 2016-17. Daeth ei gôl gyntaf i Hull ar 26 Ionawr yng nghystadleuaeth ail rownd derfynol Cwpan EFL yn erbyn Manchester United. Sgoriodd Niasse ei gôl Uwch Gynghrair gyntaf mewn buddugoliaeth 2-0 yn erbyn Lerpwl ar 4 Chwefror.

Yn ol yn Everton golygu

Ar ôl dychwelyd i Everton, gwnaeth Niasse ei ymddangosiad cyntaf ers iddo ddychwelyd, yn gêm drydedd rownd Cwpan EFL yn erbyn Sunderland ym Goodison Park ar 20 Medi 2017, gan sgorio trydydd nod Everton o ennill 3-0. Ar 23 Medi, sgoriodd Niasse ddau gôl yn erbyn AFC Bournemouth mewn ennill 2-1, gan helpu Everton i ddod yn ôl o nod i lawr. Ar 5 Tachwedd, sgoriodd Niasse gôl gyntaf Everton mewn ennill cartref 3-2 yn erbyn Watford.

Caerdydd golygu

Ar 18 Ionawr 2019, ymunodd Niasse â thîm yr Uwch Gynghrair C.P.D. Dinas Caerdydd ar fenthyciad am weddill y tymor.

Cyfeiriadau golygu