Owain ap Gruffudd (Owain Goch)
Roedd Owain ap Gruffudd, a adnabyddir hefyd fel Owain Goch (bu farw cyn 1282), yn frawd i Llywelyn ap Gruffudd a Dafydd ap Gruffudd ac yn dywysog ar ran o Wynedd am gyfnod.
Owain ap Gruffudd | |
---|---|
Ganwyd | 13 g Tywysogaeth Cymru |
Bu farw | 1282 Gwynedd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | teyrn |
Blodeuodd | 1260 |
Swydd | Teyrnas Gwynedd |
Tad | Gruffudd ap Llywelyn Fawr |
Mam | Senana |
Llinach | Llinach Aberffraw |
Bywgraffiad
golyguOwain oedd mab hynaf Gruffudd ap Llywelyn, mab Llywelyn Fawr a'i wraig Senana. Carcharwyd ef gyda'i dad yng Nghastell Cricieth gan ei ewythr Dafydd ap Llywelyn yn 1239, ac aeth i Loegr gyda'i dad ddwy flynedd yn ddiweddarach. Yng nghytundeb Woodstock yn 1247 mynnodd y brenin Harri III o Loegr ei fod yn cael rhan o deyrnas Gwynedd. Yn 1254 ymunodd â Dafydd yn erbyn ei frawd Llywelyn, ond gorchfygodd Llywelyn y ddau ym mrwydr Bryn Derwin a chymerodd diroedd Owain oddi arno a'i garcharu. Bu yng ngharchar am flynyddoedd, efallai yng Nghastell Dolbadarn ger Llanberis, ond yn 1277 gorfodwyd Llywelyn gan frenin Lloegr i'w ryddhau a rhoi tiroedd iddo yn Llŷn. Credir iddo farw cyn 1282.
Ceryddwyd Llywelyn gan nifer o'r beirdd cyfoes am gadw ei frawd yng ngharchar, er enghraifft Hywel Foel ap Griffri, sy'n cyfeirio at Owain fel Gŵr ysydd yn nhŵr yn hir westai. Bardd arall a ganodd i Owain Goch, ond cyn yr helynt, oedd y Prydydd Bychan.
Llinach
golyguLlywelyn Fawr 1173-1240 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gruffudd ap Llywelyn Fawr 1200-1244 | Dafydd ap Llywelyn 1215-1246 | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Owain Goch ap Gruffydd d. 1282 | Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn yr Ail) 1223-1282 | Dafydd ap Gruffydd 1238-1283 | Rhodri ap Gruffudd 1230-1315 | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Y Dywysoges Gwenllian 1282-1337 | Llywelyn ap Dafydd 1267-1287 | Owain ap Dafydd 1265-1325 | Gwladys (m. 1336 yn Sixhills) | Tomas ap Rhodri 1300-1363 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Owain Lawgoch 1330-1378 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||