Castell Cricieth
Castell canoloesol Cymreig yw Castell Cricieth, sy'n sefyll ar glogwyn ar lan Bae Tremadog, ar ymyl tref Cricieth, Gwynedd, yng ngogledd Cymru. Mae gan y castell dŷ porth cadarn a thri thŵr a gysylltir gan fur amgylchynnol. Mae wedi'i gofrestru gan fel Gradd 1 ac yn cael ei warchod a'i gynnal gan Cadw.
Math | castell, cestyll y Tywysogion Cymreig |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Cricieth |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 48 metr, 47.9 metr |
Cyfesurynnau | 52.9161°N 4.2325°W |
Rheolir gan | Cadw |
Perchnogaeth | Cadw |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | CN015 |
Hanes
golyguCyfnod y ddau Lywelyn
golyguCodwyd y castell yn y drydedd ganrif ar ddeg gan Lywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr), Tywysog Gwynedd a'i ŵyr, Llywelyn ap Gruffydd. Dechreuodd Llywelyn Fawr ar y gwaith tua'r flwyddyn 1230 gan godi tŷ porth trawiadol, tŵr petryal de-ddwyreiniol a llenfur oddi amgylch y cwrt mewnol. Ymddengys na ddefnyddiwyd y safle cyn hynny. Mae un traddodiad yn honni fod Llywelyn ap Iorwerth wedi cael ei garcharu yn y castell am gyfnod byr gan ei frawd Dafydd yn ystod y brwydro dros olyniaeth coron Gwynedd.
Ychwanegodd Llywelyn ap Gruffudd y llenfur oddi amgylch rhan o'r ward allanol, a'r tŵr de-orllewinol lle cafwyd enghreifftiau cain o gerfwaith carreg pan archwilwyd y safle gan archaeolegwyr. Cynhelid ei lys ar gylch yn y castell ar 26 Chwefror, 1274, a diau iddo gael ei ddefnyddio at y perwyl hwnnw ganddo fo a'i ragflaenwyr sawl gwaith cyn hynny.
Ym meddiant Coron Lloegr
golyguCafodd y castell ei gipio gan Edward I, brenin Lloegr, yn ystod ei ail ryfel ar Gymru (1282 - 83). Cryfhaodd Edward y castell, yn bennaf y tŷ porth, prif amddiffyn y castell. Nid yw'n sicr os dylir priodolir y trydydd tŵr i Edward I ynteu Llywelyn ein Llyw Olaf (yn erbyn ei ddyddio i gyfnod Edward y mae'r ffaith ei fod yn dŵr hirsgwar tebyg i dyrrau eraill a geir mewn rhai o'r cestyll Cymreig).
Yn ail hanner y 13g y marchog enwog Syr Hywel y Fwyall oedd Cwnstabl (ceidwad) y castell.
Gwrthryfel Glyn Dŵr
golyguYn ystod gwrthryfel Owain Glyn Dŵr cafodd y castell ei gipio ac ei losgi. Disgrifir y digwyddiad a'r amgylchiadau lleol yn nofel hanesyddol cofiadwy J.G. Williams, Betws Hirfaen (gw. isod).
Disgrifiad Iolo Goch o'r castell
golyguCanodd y bardd Iolo Goch gywydd i Syr Hywel y Fwyall, rywbryd yn y 1370au efallai. Erbyn yr amser hynny roedd y castell wedi troi'n llys i'r uchelwr lleol o Gymro. Disgrifia Iolo'r castell uwchben tonnau geirw'r môr, y gwŷr wrth y byrddau'n chwareu gemau a'r merched yn llunio brodwaith wrth i'r haul disgleirio trwy'r ffenestri gwydr (peth prin iawn yn y cyfnod hwnnw oedd gwydr)[1]:
- Cyntaf y gwelaf mewn gwir
- Caer fawrdeg acw ar fordir,
- A chastell gwych gorchestawl,
- A gwŷr ar fyrddau, a gwawl,
- A glasfor wrth fur glwysfaen,
- A geirw am groth tŵr gwrm graen...
- A'i llawforynion ton teg --
- Ydd oeddynt hwy bob ddeuddeg
- Yn gwau sidan glân gloywliw
- Wrth haul belydr drwy'r gwydr gwiw.[1]
Oriel luniau
golyguLlyfryddiaeth
golygu- Richard Avent, Cestyll Tywysogion Gwynedd (Caerdydd, 1983).
- J.G. Williams, Betws Hirfaen (Dinbych, 1968)