Owain ap Gruffudd (Owain Goch)

Owain Goch, brawd Llywelyn II
(Ailgyfeiriad o Owain Goch ap Gruffydd)

Roedd Owain ap Gruffudd, a adnabyddir hefyd fel Owain Goch (bu farw cyn 1282), yn frawd i Llywelyn ap Gruffudd a Dafydd ap Gruffudd ac yn dywysog ar ran o Wynedd am gyfnod.

Owain ap Gruffudd
Ganwyd13 g Edit this on Wikidata
Tywysogaeth Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw1282 Edit this on Wikidata
Gwynedd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
Blodeuodd1260 Edit this on Wikidata
SwyddTeyrnas Gwynedd Edit this on Wikidata
TadGruffudd ap Llywelyn Fawr Edit this on Wikidata
MamSenana Edit this on Wikidata
LlinachLlys Aberffraw Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Owain oedd mab hynaf Gruffudd ap Llywelyn, mab Llywelyn Fawr a'i wraig Senana. Carcharwyd ef gyda'i dad yng Nghastell Cricieth gan ei ewythr Dafydd ap Llywelyn yn 1239, ac aeth i Loegr gyda'i dad ddwy flynedd yn ddiweddarach. Yng nghytundeb Woodstock yn 1247 mynnodd y brenin Harri III o Loegr ei fod yn cael rhan o deyrnas Gwynedd. Yn 1254 ymunodd â Dafydd yn erbyn ei frawd Llywelyn, ond gorchfygodd Llywelyn y ddau ym mrwydr Bryn Derwin a chymerodd diroedd Owain oddi arno a'i garcharu. Bu yng ngharchar am flynyddoedd, efallai yng Nghastell Dolbadarn ger Llanberis, ond yn 1277 gorfodwyd Llywelyn gan frenin Lloegr i'w ryddhau a rhoi tiroedd iddo yn Llŷn. Credir iddo farw cyn 1282.

Ceryddwyd Llywelyn gan nifer o'r beirdd cyfoes am gadw ei frawd yng ngharchar, er enghraifft Hywel Foel ap Griffri, sy'n cyfeirio at Owain fel Gŵr ysydd yn nhŵr yn hir westai. Bardd arall a ganodd i Owain Goch, ond cyn yr helynt, oedd y Prydydd Bychan.

Llinach

golygu
 
 
 
 
 
 
 
 
Llywelyn Fawr
1173-1240
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Gruffudd ap Llywelyn Fawr
1200-1244
 
Dafydd ap Llywelyn
1215-1246
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Owain Goch ap Gruffydd
d. 1282
 
Llywelyn ap Gruffudd
(Llywelyn yr Ail)
1223-1282
 
 
 
Dafydd ap Gruffydd
1238-1283
 
 
 
 
 
 
 
Rhodri ap Gruffudd
1230-1315
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Y Dywysoges Gwenllian
1282-1337
 
Llywelyn ap Dafydd
1267-1287
 
Owain ap Dafydd
1265-1325
 
Gwladys
(m. 1336 yn Sixhills)
 
Tomas ap Rhodri
1300-1363
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Owain Lawgoch
1330-1378