Y Prydydd Bychan
Bardd o Ddeheubarth oedd Y Prydydd Bychan (c. 1200 - 1270), un o'r diweddaraf o Feirdd y Tywysogion. Canodd i dywysogion Deheubarth yn bennaf ond ceir yn ogystal cerddi i uchelwyr o Bowys a Gwynedd. Yn ogystal â'u gwerth llenyddol mae ei gerddi'n ddrych i wleidyddiaeth Cymru yn oes y ddau Lywelyn. Mae'n bosibl ei fod yn frodor o Geredigion.[1]
Y Prydydd Bychan | |
---|---|
Ganwyd | 1200s Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Blodeuodd | 1220 |
Bywgraffiad
golyguYchydig iawn a wyddys am y bardd ei hun a daw trwch y dystiolaeth amdano o'i gerddi. Mae ei enw bedydd yn anhysbys. Oherwydd ei enw awgrymir ei fod yn fab i Phylip Brydydd, a ganodd i dywysogion Deheubarth genhedlaeth o'i flaen (arferid cyfeirio at fab rhywun o'r un enw neu alwedigaeth gyda'r cyfenw 'Bychan'). Ar sail cyfeiriad gan y bardd Gwilym Ddu o Arfon at ddau fardd yng Ngheredigion "Philyp a Gwilym...", mae D. Myrddin Lloyd yn awgrymu mai Gwilym ap Philyp oedd enw'r Prydydd Bychan. Ar sail gwrthrychau ei farwnadau, gellir dweud fod y Prydydd Bychan yn canu yn y cyfnod 1222-1268, ac felly'n byw yn y cyfnod o tua 1200 hyd tua 1270.[1]
Os gwir fod y Prydydd Bychan yn fab i Philyp Brydydd, mae hi bron yn sicr mai wrth draed ei dad y dysgodd ei grefft (fel yn achos Gwalchmai ap Meilyr gan ei dad Meilyr Brydydd ganrif yn gynt).[1]
Cerddi
golyguCeir 19 o gerddi (528 llinell) o waith y Prydydd Bychan yn Llawysgrif Hendregadredd, unig ffynhonnell ei waith. Canu mawl a marwnad yw'r gerddi sydd wedi goroesi i gyd.[1]
Mae noddwyr y Prydydd Bychan yn perthyn i lysoedd Ceredigion a Deheubarth yn bennaf, ond canodd yn ogystal i noddwyr yng Ngwynedd a Phowys. Canodd i Owain Goch ap Gruffudd ap Llywelyn a Goronwy ap Ednyfed Fychan, distain Llywelyn Fawr, yng Ngwynedd. Ym Mhowys canodd i Gwên ap Goronwy, distain Gruffudd ap Gwenwynwyn. Canodd yn ogystal i uchelwyr yn y gogledd sydd fel arall yn anhysbys, megis Madog Môn, Bleddyn ap Dwywg a Llywelyn ap Rhys ab Iorwerth.[1]
Mae bron y cyfan o'i noddwyr yn Neheubarth yn perthyn yn uniongyrchol i linach frenhinol Dinefwr, disgynyddion yr Arglwydd Rhys ap Gruffudd, yn cynnwys Rhys Ieuanc ap Gruffudd (m. 1222), Rhys Gryg, Morgan ap Rhys, Owain ap Gruffudd a Chynan ap Hywel Sais. Canodd hefyd i Rys ap Llywelyn, distain Maredudd ab Owain o Ddeheubarth.[1]
Llyfryddiaeth
golygu- Morfydd E. Owen 'Gwaith Y Prydydd Bychan', yn Rhian M. Andrews et al. (gol.), Gwaith Bleddyn Fardd a beirdd eraill ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg (Aberystwyth, 1996). Cyfres Beirdd y Tywysogion.
Cyfeiriadau
golygu