C.P.D. Dinas Bangor
Clwb pêl-droed o ddinas Bangor, Gwynedd oedd Clwb Pêl-droed Dinas Bangor (Saesneg: Bangor City Football Club). Roedd y clwb yn chwarae yn y Gynghrair Undebol, prif adran bêl-droed gogledd Cymnru ac ail adran bêl-droed yng Nghymru.
Enw llawn | Clwb Pêl-droed Dinas Bangor | ||
---|---|---|---|
Llysenw(au) | Dinasyddion (The Citizens) | ||
Sefydlwyd | 1876 | ||
Diddymwyd | 2022 (anweithredol), 2025 (yn swyddogol) | ||
Maes | Nantporth | ||
Cynghrair | Uwch Gynghrair Cymru | ||
2018/2019 | 4 | ||
|
Ffurfiwyd y clwb yn 1876[1] ac maent wedi codi Cwpan Cymru ar wyth achlysur yn ogystal ag ennill Uwch Cynghrair Cymru dair gwaith.
Ar 30 Tachwedd 2021, ataliwyd y clwb rhag unrhyw weithgaredd pêl-droed oherwydd methiant i dalu cyflogau. Erbyn 18 Chwefror 2022, cyhoeddodd y clwb eu bod wedi tynnu nôl o'r gynghrair a cadarnhaodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru bod canlyniadau'r clwb o'r tymor hwnnw wedi eu diddymu. Methodd y clwb wneud cais am drwyddedau rheng 2 neu 3, ac felly nid oeddent yn gallu chwarae mewn unrhyw adran yng ngweddill tymor 2022-23. Diddymwyd cwmni cyfyngedig 'Bangor City Football Club' yn orfodol gan Dy'r Cwmnïau ar 6 Ionawr 2025.[2]
Roedd Bangor yn chwarae eu gemau cartref ar faes Nantporth ers mis Ionawr 2012. Mae'r maes yn dal uchafswm o 3,000 o dorf gyda 1,147 o seddi[3].
Hanes
golyguY Blynyddoedd Cynnar
golyguFfurfiwyd y clwb ym 1876, gan chwarae eu gemau ym Maes y Dref yn ardal Hirael y ddinas. Llwydddd Bangor i osod eu stamp fel un o brif glybiau Cymru pan gyrhaeddodd y Dinasyddion rownd gyn derfynol cystadleuaeth cyntaf Cwpan Cymru ym 1877-78[4].
Ar ddiwedd y 19ed ganrif, gyda chlybiau Cymru yn dod yn fwy uchelgeisiol, sefydlwyd sawl cynghrair i geisio efelychu llwyddiant Cynghrair Lloegr. Roedd Prif Gynghrair Cymru yn gwasanaethu ardal Wrecsam tra bod y Combination, oedd wedi ei sefydlu ym 1890 ar gyfer prif dimau Manceinion,Sir Gaerhirfryn a Sir Gaer yn cynnwys rhai o brif dimau Cymru fel Wrecsam a'r Waun. Oherwydd costau teithio, daeth nifer o glybiau gogledd-orllewin Cymru at ei gilydd er mwyn ffurfio Arfordir Gogledd Cymru ym 1893[5].
Ar ôl codi tlws Cwpan Cymru yn 1889 a 1896, ymunodd Bangor â'r Combination League ym 1899[6] gan adael yr ail dîm i chwarae yng Nghynghrair Arfordir Gogledd Cymru hyd nes i'r Combination League ddirwyn i ben ym 1910.
Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf ail-ymunodd Bangor â Chynghrair yr Arfordir ac ym 1919 bu rhaid i'r clwb adael eu cartref ym Maes y Dref, ac er mwyn cwblhau eu gemau, symudodd Bangor i rannu maes Clwb Criced Bangor yn Ffordd Farrar.
Chwarae yn Lloegr
golyguYm 1932, penderfynodd Bangor ddilyn clybiau fel Wrecsam, Y Rhyl a Bae Colwyn ac ymuno â Chynghrair Birmingham a'r Cylch (Saesneg: Birmingham & District League). Dyma ddechrau ar 60 mlynedd o chwarae pêl-droed dros Glawdd Offa. Ym 1938, symudodd Bangor o Gynghrair Birmingham a'r Cylch i Gynghrair Sir Gaerhirfryn (Saesneg: Lancashire Combination) gan orffen yn ail yn eu tymor cyntaf[7]
Ym 1950 ymunodd Bangor â'r Rhyl ac Ail Dîm Wrecsam yng Nghynghrair Sir Gaer (Saesneg: Cheshire League)[8]. Yn 1961-62 llwyddodd Bangor i godi Cwpan Cymru am y trydydd tro a chael eu lle yn Nghwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop am y tro cyntaf. Daeth y clwb allan o'r het i wynebu Napoli o'r Eidal. Yn y cymal cyntaf ar Ffordd Farrar cafwyd buddugoliaeth annisgwyl 2-0 ac yn yr ail gymal yn Yr Eidal llwyddodd Bangor i rwydo unwaith wrth golli 3-1. O dan reolau presennol cystadlaethau UEFA byddai Bangor wedi mynd trwodd i'r rownd nesaf ar y rheol goliau oddi cartref. Ond ar y pryd, gyda'r gêm yn gyfartal 3-3 dros ddau gymal, bu rhaid cael trydydd gêm ar faes niwtral Highbury, cartref Arsenal yn Llundain a llwyddodd Napoli i ennill 2-1.
Gadawodd Bangor Gynghrair Sir Gaer ym 1968 er mwyn dod yn aelodau gwreiddiol o Uwch Gynghrair Gogledd Lloegr (Saesneg: Northern Premier League)[9] ac erbyn 1979, roedd y clwb wedi derbyn gwahoddiad i fod yn aelodau gwreiddiol yr Uwch Gynghrair Undebol (Saesneg: Alliance Premier League) sydd bellach yn cael ei hadnabod fel Y Gyngres (Saesneg: Football Conference).
Ar 12 Mai 1984 daeth Bangor y clwb Cymreig cyntaf i chwarae yn Wembley ers Dinas Caerdydd ym 1927 ar ôl llwyddo i gyrraedd rownd derfynol Tlws FA Lloegr. Cafwyd gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Northwich Victoria gyda Paul Whelan yn sgorio'r gôl hanesyddol i'r Dinasyddion. Collwyd y gêm ail chwarae ar Faes Fictoria, Stoke 1-2 gyda Phil Lunn yn sgorio i Fangor.
Uwch Gynghrair Cymru
golyguYmunodd Bangor ag Uwch Gynghrair Cymru ar gyfer y tymor agoriadol ym 1992-93. Llwyddodd y clwb i ennill y Gynghrair ym 1993-94 a 1994-95 cyn sicrhau eu trydydd pencampwriaeth yn 2010-11. Ar ddiwedd tymor 2017-18 cafodd y clwb eu gorfodi i ddisgyn i'r Gynghrair Undebol am iddynt fethu sicrhau'r drwydded domestig sydd ei angen ar gyfer chwarae yn yr Uwch Gynghrair[10].
Record yn Ewrop
golyguTymor | Cystadleuaeth | Rownd | Clwb | Cymal 1af | 2il Gymal | Dros Ddau Gymal |
---|---|---|---|---|---|---|
1962–63 | Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop | R1 | Napoli | 2–0 | 1–3 | 3–31 |
1985-86 | Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop | R1 | Fredrikstad | 0–0 | 1–1 | 1–1 (a) |
R2 | Atlético Madrid | 0–2 | 0–1 | 0–3 | ||
1994-95 | Cwpan UEFA | Rd Rhag | ÍA Akranes | 1–2 | 0–2 | 1–4 |
1995-96 | Cwpan UEFA | Rd Rhag | Widzew Łódź | 0–4 | 0–1 | 0–5 |
1998–99 | Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop | Rd Rhag | Haka | 0–2 | 0–1 | 0–3 |
2000–01 | Cwpan UEFA | Rd Rhag | Halmstads | 0–7 | 0–4 | 0–11 |
2002–03 | Cwpan UEFA | Rd Rhag | Smederevo | 1–0 | 0–2 | 1–2 |
2003 | Tlws Intertoto | Rd 1 | Gloria Bistriţa | 0-1 | 2-5 | 2–6 |
2005 | Tlws Intertoto | Rd 1 | Dinaburg FC | 1–2 | 0–2 | 1–4 |
2008-09 | Cwpan UEFA | Rhag 1 | FC Midtjylland | 0-4 | 1-6 | 1-10 |
2009–10 | Cynghrair Europa UEFA | Rhag 2 | FC Honka | 0–1 | 0–2 | 0–3 |
2010-11 | Cynghrair Europa UEFA | Rhag 2 | FC Honka | 1-1 | 2-1 | 3-2 |
Rhag3 | Marítimo | 2-8 | 1-2 | 3–10 | ||
2011-12 | Cynghrair y Pencampwyr UEFA | Rhag 2 | HJK Helsinki | 0-3 | 0-10 | 0-13 |
2012-13 | Cynghrair Europa UEFA | Rhag 1 | Zimbru Chisinau | 0-0 | 1-2 | 1-2 |
2014-15 | Cynghrair Europa UEFA | Rhag 1 | Stjarnan | 0-4 | 0-4 | 0-8 |
2017-18 | Cynghrair Europa UEFA | Rhag 1 | Lyngby | 0-1 | 0-3 | 0-4 |
Sgwad 2018-19
golyguNodiadau:
- 1: Napoli yn ennill gêm ail gyfle 2–1 yn Highbury, Llundain.
Anrhydeddau
golygu- Uwch Gynghrair Cymru: 3
- Uwch Gynghrair Gogledd Lloegr: 1
- Pencampwyr: 1981–82
- Ail safle: 1986–87
- Cynghrair Arfordir Gogledd Cymru: 5
- Pencampwyr: 1895–96, 1899–00, 1900–01, 1903–04, 1919–20
- Ail safle: 1896–97
- Cwpan Cymru: 8
- Cwpan Cynghrair Cymru
- Cyrraedd Rownd Derfynol: 1993-94, 1996-97, 1997-98, 1999-2000, 2002-03, 2008-09
- Cwpan Her Arfordir y Gogledd: 13
- Enillwyr: 1926-27, 1935-36, 1936-37, 1937-38, 1946-47, 1950-51, 1957-58, 1964-65, 196768, 1992-93, 1998-99, 2004-05, 2011-12
- Cyrraedd Rownd Derfynol: 2013-14
- Tlws FA Lloegr
- Cyrraedd Rownd Derfynol: 1983–84
- Cwpan Her Uwch Gynghrair Gogledd Lloegr: 1
- Enillwyr: 1968-69
- Cwpan Llywydd Uwch Gynghrair Gogledd Lloegr: 1
- Enillwyr: 1988-89
- Tarian Uwch Gynghrair Gogledd Lloegr: 1
- Enilwyr: 1986-87
- Cwpan Amatur Arfordir y Gogledd: 9
- Enillwyr: 1894-95, 1895-96, 1897-98, 1898-99, 1900-01, 1902-03, 1904-05, 1905-06, 1911-12
- Cwpan Her Gogledd-Orllewin Cymru: 1
- Enillwyr: 1885-86
Chwaraewyr nodedig
golygu- Nigel Adkins - Aelod o Oriel Anfarwolion Uwch Gynghrair Cymru
- Smart Arridge - Wyth cap dros Gymru 1893-1899
- Clayton Blackmore - 39 cap dros Gymru 1985–1997
- Dai Davies - 52 cap dros Gymru 1975–1982
- Owain Tudur Jones - 7 cap dros Gymru 2008–2013
- Marc Lloyd-Williams - Aelod o Oriel Anfarwolion Uwch Gynghrair Cymru
- Ken McKenna - Aelod o Oriel Anfarwolion Uwch Gynghrair Cymru
- Andy Mulliner - Aelod o Oriel Anfarwolion Uwch Gynghrair Cymru
- Neville Powell - Aelod o Oriel Anfarwolion Uwch Gynghrair Cymru
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Bangor City FC: Potted History". Unknown parameter
|published=
ignored (help)[dolen farw] - ↑ "Bangor City. Football club dissolved after compulsory strike-off". BBC News (yn Saesneg). 2025-01-06. Cyrchwyd 2025-01-06.
- ↑ "Bangor City FC: Stadium Information". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-09-04. Cyrchwyd 2014-08-30. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Welsh Football Data Archive: Welsh Cup 1877-78". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-02-27. Cyrchwyd 2014-08-30. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Welsh Football Data Archive: North Wales Coast League History". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2014-08-30. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Welsh football Data Archive: Combination League 1899-1900". Unknown parameter
|published=
ignored (help)[dolen farw] - ↑ "RSSSF: Lancashire Combination Final Tables". Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "RSSSF: Cheshire League Final Tables". Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "RSSSF: Northern Premier League Final Tables". Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Bangor yn methu sicrhau trwydded i chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru". Sgorio. 26 Ebrill 2018.
Cynghrair Undebol, 2018-19 | ||
---|---|---|
Airbus UK |
Bangor |
Bwcle |
Cegidfa |
Conwy |
Dinbych |
Gresffordd |
Hotspur Caergybi | |