Amrywiad o bêl-fasged yw pêl-fasged 3x3. Mae gan bob tîm tri chwaraewr yr un, a'i chwaraeir gydag un fasged yn unig. Ar hyn o bryd mae fformat hon o'r gêm yn cael ei hyrwyddo a'i strwythuro gan FIBA, ei gorff llywodraethu.[1] Ei brif gystadleuaeth yw Taith Byd FIBA 3X3 flynyddol,[2] sy'n cynnwys cyfres o dwrnameintiau Meistr ac un twrnamaint Terfynol; y wobr yw ffigwr chwe ffigur yn noleri'r UD. Cwpanau'r Byd FIBA 3x3 ar gyfer ddynion a menywod yw'r twrnameintiau uchaf ar gyfer timau cenedlaethol 3x3. Cafodd y fformat 3x3 ei gyflwyno yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2020 a Gemau'r Gymanwlad 2022.

Rheolau golygu

Gêm pêl-fasged 3x3
 
Gêm ryngwladol dynion rhwng Rwmania a Slofenia yn Bucharest (Medi, 2014)

O bryd i bryd mae FIBA yn cyhoeddi atodiad i'w reolau pêl-fasged swyddogol yn benodol ar gyfer y fformat 3x3. Mae'r rheolau yn nodi bod rheolau FIBA rheolaidd yn berthnasol i bob sefyllfa nad yw'n cael sylw penodol o fewn y rheolau 3x3. Cyhoeddwyd y set gyfredol, mewn fersiwn gryno[3] ac mewn fformat hirach,[4] ym mis Awst 2019.[5]

Dyma rhai ffyrdd mae'r rheolau cyfredol yn wahanol i bêl-fasged cwrt llawn safonol:

  • Mae pob tîm yn cynnwys tri chwaraewr ac un eilydd. Rhaid bod gan bob tîm dri chwaraewr ar y cwrt pan fydd y gêm yn cychwyn.
  • Mae'r gêm yn cael ei chwarae ar hanner cwrt gydag un fasged. Mae'r cwrt swyddogol 15m o led, gan 11m o hyd. Fodd bynnag, mae'r rheolau yn nodi'n benodol bod hanner cwrt llawn safonol FIBA yn ardal chwarae dderbyniol ar gyfer cystadlaethau swyddogol. Pellter hanner cwrt safonol NBA & WNBA America yw 50 troedfedd (15.24m) gan 47 troedfedd (14.33m).
  • Defnyddir pêl-fasged maint 6 (720 mm), gyda màs maint 7 (620g).
  • Cynhelir y tafliad darn arian yn union cyn y gêm. Gall y tîm buddugol ddewis cymryd meddiant o'r bêl ar ddechrau'r gêm, neu gymryd y meddiant cyntaf o'r cyfnod goramser posib. Felly mae hyn yn golygu, os yw'r gêm yn mynd i oramser, bydd y meddiant cyntaf yn mynd i'r tîm a ddechreuodd y gêm trwy amddiffyn.
  • Mewn unrhyw sefyllfa lle caiff dau chwaraewr rheolaeth o'r bêl (held-ball), rhoddir meddiant i'r tîm amddiffynnol.
  • Dyfernir un pwynt i bob saeth lwyddiannus y tu mewn i'r arc, tra dyfernir dau bwynt i bob saeth lwyddiannus y tu ôl i'r arc.
  • Mae gan y gêm un cyfnod 10 munud, gyda thranc sydyn (sudden death) ar 21 pwynt. Yr enillydd yw'r tîm cyntaf i sgorio 21 neu'r tîm gyda'r sgôr uchaf ar ddiwedd y 10 munud. mae sgôr gyfartal yn arwain at gyfnod goramser. Pa bynnag dîm sy'n sgorio dau bwynt yn y cyfnod hwn sy'n ennill y gêm.
  • Mae'r gêm yn dechrau gyda'r tîm amddiffynnol yn pasio'r bêl i'r tîm ymosodol y tu ôl i'r arc. Defnyddir hwn hefyd i ailgychwyn y gêm o unrhyw sefyllfa bêl farw.
  • Defnyddir cloc 12 eiliad, lle mae angen i'r tîm sydd gyda'r bêl saethu cyn i'r cloc cyrraedd sero.
  • Os yw'r tîm amddiffyn yn ennill meddiant o'r bêl o fewn yr arc trwy ddwyn, bloc, neu adlam, yna mae'n rhaid i'r tîm symud y bêl y tu ôl i'r arc cyn cael caniatâd i saethu.
  • Ar ôl gôl dafliad rhydd, mae'r chwarae'n ailgychwyn gyda chwaraewr o'r tîm sydd hen sgorio yn cymryd y bêl yn uniongyrchol o dan y fasged ac yna'n driblo neu ei phasio i bwynt y tu ôl yr arc.
  • Dim ond mewn sefyllfa pêl farw gall tîm amnewid chwaraewr ar gyfer eilydd.
  • Caniateir saib amser-allan i bob tîm.
  • Mae chwaraewr sy'n chwarae'n fudr dwywaith yn cael ei ddiarddel. Mae nifer o wahaniaethau eraill i'w wneud gyda chwarae budr.
  • Mae yna Reol Trent Tucker: os oes hyd at 0.2 eiliad ar ôl ar y cloc saeth ni ellir cymryd saeth arferol, angen gwneud lob uchel neu tip-in.

Cwpanau'r Byd golygu

Ar ôl Gemau Olympaidd Ieuenctid yr Haf 2010 sefydlodd FIBA Gwpan y Byd, sydd bob amser yn cynnwys dynion a menywod yn cystadlu ar yr un pryd mewn categorïau agored, o dan 23 ac o dan 18 oed. Mae Cwpanau'r Byd yn cael eu chwarae bob blwyddyn, ac eithrio mewn blynyddoedd pan mae'r Gemau Olympaidd Ieuenctid neu'r Gemau Olympaidd. Oherwydd y pandemig COVID-19 cafodd y digwyddiad ei ganslo 2020.

Gemau rhyngwladol golygu

Daeth pêl-fasged 3x3 yn gystadleuaeth reolaidd yn y Gemau Ewropeaidd ers cafodd ei gyflwyno yng Ngemau Ewropeaidd 2015 yn Baku, Aserbaijan.

Ar 9 Mehefin 2017 cyhoeddodd Bwrdd Gweithredol y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol y byddai pêl-fasged 3x3 yn cael ei ychwanegu at y rhaglen Olympaidd ar gyfer Gemau Olympaidd yr Haf 2020 yn Tokyo, Japan, ar gyfer dynion a menywod.[6]

Ym mis Awst 2017 cyhoeddwyd y byddai pêl-fasged 3x3 yn cael ei gynnal yng Ngemau'r Gymanwlad 2022 yn Mirmingham, Lloegr.[7]

Cyfeiriadau golygu

  1. "FIBA.basketball". FIBA.basketball.
  2. "The official website of FIBA 3x3 World Tour 2018". FIBA.basketball.
  3. "Official 3x3 Basketball Rules – Short Version" (PDF). FIBA. 29 August 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2020-09-15. Cyrchwyd 12 May 2020.
  4. "Official 3x3 Basketball Rules" (PDF). FIBA. 29 Awst 2019. Cyrchwyd 12 May 2020.
  5. FIBA3x3. "The Official Rules of the Game - FIBA 3x3".
  6. "Tokyo 2020 event programme to see major boost for female participation, youth and urban appeal". International Olympic Committee. 13 Mehefin 2017.
  7. "Birmingham include 3x3 basketball and Urban Street Festival as part of 2022 Commonwealth Games plans". www.insidethegames.biz. 10 Awst 2017.