Pŵer Niwclear Horizon

Cwmni ynni yn y Deyrnas Unedig ydy Pŵer Niwclear Horizon. Mae'n datblygu cenhedlaeth newydd o orsafoedd pŵer niwclear.

Pŵer Niwclear Horizon
Enghraifft o'r canlynolbusnes, menter Edit this on Wikidata
Dechrau/SefydluTachwedd 2009 Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolcwmni cyfyngedig a gyfyngwyd gan gyfranddaliadau Edit this on Wikidata
PencadlysCaerloyw Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.horizonnuclearpower.com Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Mae Horizon yn is-gwmni ym mherchnogaeth lwyr Hitachi Ltd. Bydd y cyntaf o’r gweithfeydd pŵer niwclear arfaethedig hyn yn Wylfa Newydd ar arfordir gogleddol Ynys Môn, ger pentref Cemaes. Mae’r ail safle wrth ymyl Oldbury-on-Severn yn Ne Swydd Gaerloyw, ger Thornbury. Bwriad Horizon yw cynhyrchu o leiaf 5,400MW o gapasiti gorsafoedd pŵer newydd i’r Deyrnas Unedig. Mae hyn yn ddigon o drydan i tua 10 miliwn o gartrefi. Bydd y prosiectau’n creu hyd at 850 o swyddi parhaol ar bob un o’n safleoedd ar Ynys Môn ac yn Oldbury, gyda 4,000 o weithwyr yn y gweithlu adeiladu y rhan fwyaf o'r amser. Bydd y buddsoddiad hwn yn Cyflenwadau ynni carbon isel y wlad ac yn helpu i ddatblygu sgiliau lleol a rhagolygon newydd i gyflenwyr Prydeinig.[1]

Dyfodol golygu

Dyfodol yw prosiect sydd yn ymwneud â phobl ifanc mewn addysg. Nod Horizon yw eu hysbrydoli i archwilio meysydd STEM (sef, Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg.) Y nod yw hefyd gweithio efo nhw er mwyn iddynt gael gwybod am gyfleoedd swyddi gyda Horizon yn y dyfodol.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Horizon Pŵer Niwclear". Horizon Pŵer Niwclear. 23.8.17. Check date values in: |date= (help)