Daw Paarl o'r gair Parel, sef, 'perl' yn Iseldireg [1]). Mae'n ddinas (gyda'i threflannau) â phoblogaeth o 191,013 yn nhalaith y Wes Kaaps (Gorllewin y Penrhyn / Western Cape) yn Ne Affrica.

Paarl o'r awyr
256 Stryd Fawr, Paarl
Prif swyddfa cynhychwyr gwin, KWV yn Paarl

Dyma'r drydedd dref hynaf yn Ne Affrica ar ôl Tref y Penrhyn (Kaapstad/Cape Town) a Stellenbosch, a hi yw'r dref fwyaf yn nhiroedd gwinllanau De Affrica. Mae'r dref, i bob pwrpas bellach wedi ei huno gyda threflan Mbekweni, ac mae'n uned drefol gyda Wellington. Lleolir Paarl oddeutu 60 kilometre (37 mi) i'r gogledd ddwyrain o Kaapstad ac mae'n enwog am ei harddwch naturiol a thraddodiad gwinllanol a thyfu ffrwythau.

Er mai dyma sedd Cyngor Bwrdeisdref Drakenstein, ac nid o ardal fetropolitan Kaapstad, mae'n cwympo o fewn ardal economaidd y ddinas honno. Mae Paarl yn anarferol yn Ne Affrica gan bod ei henw'n cael ei ynganunu'n wahanol yn y Saesneg a'r Afrikaans. Bydd y Afrikaans yn aml yn rhoi'r fannod cyn yr enw gan ddweud, in die Paarl neu in die Pêrel ("yn y Paarl"), yn hytrach nag in Paarl.

Hanes golygu

Brodorion cynharaf ardal Paar oedd y Khoikhoi a San. Trigai'r KhoiKhoi y Penrhyn a'r Cochoqua yn ardal dyffryn afon Berg. Roedd y Cochaqua yn magu gwartheg ac ymysg y cyfoethocaf o'r llwythi Khoi a rhwng 16-18,000 mewn nifer gan alw Mynydd Paarl yn 'Fynydd y Crwban'.[2]

Sefydlodd Vereenigde Oost-Indische Compagnie o dan arweinyddiaeth Jan van Riebeeck berthynas masnachu cig gyda'r KhoiKhoi ar hyd arfordir bae Tafelsberg (Table Mountain). Yn 1657, wrth chwilio am berthnasau masnachu newydd yn y berfeddwlad, gwelodd yr Iseldirwr, Abraham Gabemma, graig gwenithfaen anferth yn disgleirio yn yr heulwen wedi storm law a'i alw'n "de Diamondt en de Peerlberg" ("Mynydd Diamwnt a Pherl") gan roi enw i dref Paarl.[1][3] Gabemma (sillefir yn aml fel Gabbema) oedd Fiscal (trysorydd cyhoeddus) aneddiadau arfordir y Tafelberg. Gollyngwyd y "diamwnt" o'r enw, a daeth y graig i'w hadnabod yn syml fel y Graig neu Fynydd Perl.

Yn 1687, rhoddodd y Llywodraethwr Simon van der Stel yr hawl i'r ffermydd cyntaf yn yr ardal i'r 'berdeiswyr rhydd' ("free burghers"). Y flwyddyn ganlynol, cyrhaeddodd yr Hiwgonotiaid Ffrengig ar y Penrhyn a glwadychu'r ffermydd yn yr ardal.[2] Rhoddodd y tir ffrwythlon a'r hinsawdd tebyg i Fôr y Canoldir amlgychiadau rhagorol ar gyfer ffermio. Planodd y gwladychwyr perllannau, ffrwythau, llysiau a gerddi a'r gwinllanoedd enwog.[4] Gydag hynny datblygodd traddodiad hir Paarl fel canolfan frwythau a gwin De Affrica.

Arweinodd y gwladychu Ewropeaidd ar wrthdarro gyda'r Khoikhoi dros dir a dŵr ac wrth i ddull o dir cymunedol y KhoiKhoi ddod yn erbyn arfer y gwladychwyr o dir preifat. Trechwyd y Khoi mewn rhyfeloedd lleol ac fe'i difarwyd gan afiechydon y dyn gwyn. Ffodd llawer o'r boblogaeth yn bellach i fewn i'r berfeddwlad tuag at yr Afon Oren (Orange River) neu daethant yn lafurwyr taeog ar y ffermydd.[2]

Demograffeg golygu

Yn ôl cyfrifiad 2001 De Affrica roedd poblogaeth Paarl yn 82,713 (yn y dref ei hun) mewn 20,138 cartref, ac ardal 32.2 square kilometre (12.4 mi sgw). Roedd 67.8% o'r trigolion yn disgrifio eu hunain fel 'Lliw' (Kaapse Kleurlinge; Cape Coloureds), 21.2% fel 'gwyn', 10.5% fel 'du', a 0.5% fel Indiaidd neu De Ddwyrain Asia. Afrikaans oedd iaith gyntaf 85.5% o'r bobl, siaradai 8.5% Xhosa, a 5.2% yn siarad Saesneg.[5]

Yn 2011 y sefyllfa oedd: Poblogaeth o 112,045; 69.89% yn 'lliw'; 17.90% gwyn; 10.35% du.[6]

Afrikaans oedd prif iaith 86.81% o'r boblogaeth, a Saesneg yn 6.1%.

Atyniadau Twristaidd golygu

 
Craig Paarl
 
Craig Paarl gyda'r dref tu ôl iddi a phegwn Du Toit's Peak drachefn
 
Afrikaanse Taalmonument yn Paarl

Mae Paarl, fel nifer o drefi yn ardal y Gwinllaannodd yn gymuned gyfoethog gyda phensaerniaeth tai fferm Iseldireg, gerddi cymen a strydoedd deiliog.

Ceir sawl atyniad unigryw yn Paarl: yn y dref hon sefydlwyd seiliau'r iaith Afrikaans fel iaith lenyddol a swyddogol gan sefydlu mudiad iaith y Genootskap van Regte Afrikaners. Lleolir y gofeb i'r iaith Afrikaans, y Taalmonument ar lethrau Mynydd Paarl lle lleolir yr amgueddfa iaith (Taalmuseum) a'r llwybr iaith Afrikaans trwy Dal Josaphat sy'n dysteb i lwyddiant y mudiad iaith.

Ceir hefyd cyn bencadlys y gymdeithas gydweithredol gwinllanoedd y KWV. Enillodd y KWV enw iddi hyn fel arbenigwyr a safon ei chynhyrchu gwin.

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Raper, P. E. Paarl. Dictionary of Southern African Place Names. archive.org. Cyrchwyd 28 October 2013.
  2. 2.0 2.1 2.2 "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Mehefin 2011. Cyrchwyd 26 Mawrth 2011. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)CS1 maint: archived copy as title (link)
  3. The concise illustrated South African Encyclopaedia. P. Schirmer, 1980. Central News Agency, Johannesburg. First edition, about 211pp
  4. A General Collection of the Best and Most Interesting Voyages and Travels in All Parts of the World, Vol XVI. John Pinkerton, 1814. London: Longman, Hurst, Rees, and Orme.
  5. "Main Place 'Paarl'". Census 2001. Cyrchwyd 2 April 2011.
  6. Nodyn:Lien web