Gweddi'r Arglwydd
Gweddi Gristnogol o'r Testament Newydd yn y Beibl ydy Gweddi'r Arglwydd, neu'r Pader, neu Ein Tad (ar ôl y geiriau agoriadol). Mae'n debyg y cyfieithwyd y fersiwn sy'n gyfarwydd heddiw i'r Gymraeg naill ai o'r Saesneg neu o'r Lladin tua'r 16g.
Gweddi Ladin oedd hi ar y dechrau, a adwaenid fel Y Pader (Lladin: Paternoster, Cymraeg: Ein Tad). Daw o'r fersiwn o Efengyl Mathew yn y Beibl Fwlgat canoloesol.
Fersiynau gwreiddiol
golyguIsod mae Gweddi'r Arglwydd wreiddiol yn Hen Roeg.
πάτερ ἡμῶν ὁ ἐν τοῖς οὐρανοῖς
ἁγιασθήτω τὸ ὄνομά σου
ἐλθέτω ἡ βασιλεία σου
γενηθήτω τὸ θέλημά σου ὡς ἐν οὐρανῷ καὶ ἐπὶ γῆς
τὸν ἄρτον ἡμῶν τὸν ἐπιούσιον δὸς ἡμῖν σήμερον
καὶ ἄφες ἡμῖν τὰ ὀφειλήματα ἡμῶν ὡς καὶ ἡμεῖς ἀφήκαμεν τοῖς ὀφειλέταις ἡμῶν
καὶ μὴ εἰσενέγκῃς ἡμᾶς εἰς πειρασμόν ἀλλὰ ῥῦσαι ἡμᾶς ἀπὸ τοῦ πονηροῦ.
Αμήν.
Ac isod mae rhamantiad o'r testun Hen Groeg.
Páter Hēmôn ho en toîs ouranoîs
hagiasthḗtō tó ónomá sou
elthétō hē basileíā sou
genēthḗtō tó thélēmá sou hōs en ouranô(i) kaí epí gês
tón árton hēmôn tón epioúsion dós hēmîn sḗmeron
kaí áphes hēmîn tá opheilḗmata hēmôn hōs kaí hēmeîs aphḗkamen toîs opheilétais hēmôn
kaí mḗ eisenénkēis hēmâs eis peirasmón allá rhûsai hēmâs apó toû ponēroû.
Amín.
Gweddi'r Arglwydd yn y Gymraeg
golyguCeir y cyfieithiad Cymraeg cynharaf sydd ar glawr yn y testun Cymraeg Canol Pwyll y Pader (13g efallai), a gedwir yn Llyfr yr Ancr (14g). Er bod cyfieithiad Cymraeg yn bod mor gynnar â hynny, yn Lladin byddai pobl yn adrodd Gweddi'r Arglwydd yn yr Oesoedd Canol.
Y fersiwn Cymraeg Canol
golygu- Ein Tad ni, yr hwn ysydd yn y nefoedd,
- Cadarnhaer dy Enw di, Arglwydd.
- Doed dy deyrnas di arnam ni.
- Bid arnam dy [e]wyllys di megys y mae yn y nef
- [ac felly] yn y ddaear.
- Dyro di ein bara beunyddiawl.
- Maddeu di, Arglwydd, ein pechodeu i ni a wnaetham i'th erbyn,
- megys y maddeuwn ninneu i ereill, o'th drugaredd ditheu,
- yr hwnn a wnaethant i'n herbyn ninneu.
- Na ddwg ti ni ym mhrofedigaeth.
- Rhyddhâ di ni, Arglwydd, y gan y drwg.[1]
Y weddi Gymraeg ddiweddar
golygu- Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd,
- sancteiddier dy enw.
- Deled dy deyrnas.
- Gwneler dy ewyllys,
- megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd.
- Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol.
- A maddau i ni ein dyledion,
- fel y maddeuwn ninnau i'n dyledwyr.
- Ac nac arwain ni i brofedigaeth, eithr gwared ni rhag drwg.
- Canys eiddot ti yw'r deyrnas, a'r nerth, a'r gogoniant yn oes oesoedd.
- Amen.
ynteu:
- Ein Tad, yn y nefoedd,
- sancteiddier dy enw.
- Deled dy deyrnas.
- Gwneler dy ewyllys,
- ar y ddaear, fel yn y nef.
- Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol.
- A maddau i ni ein troseddau,
- fel y maddeuwn i’r rhai a droseddodd yn ein herbyn.
- A phaid â’n dwyn i brawf, ond gwared ni rhag drwg.
- Oherwydd eiddo ti yw'r deyrnas, y nerth a'r gogoniant, am byth ac am byth.
- Amen.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Nesta Lloyd a Morfydd E. Owen (gol.), 'Pwyll y Pader', yn Drych yr Oesoedd Canol (Caerdydd, 1986). Diweddarwyd yr orgraff wreiddiol yn sylweddol.