Paisley, Yr Alban
Tref yn Swydd Renfrew, yr Alban, yw Paisley[1] (Gaeleg: Pàislig).[2] Wedi'i lleoli ar ymyl ogleddol y Gleniffer Braes, mae'r dref yn ffinio â dinas Glasgow i'r dwyrain, ac yn pontio glannau Afon Cart, un o lednentydd Afon Clud.
Math | tref, large burgh |
---|---|
Poblogaeth | 77,220 |
Gefeilldref/i | Fürth |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Renfrew |
Gwlad | Yr Alban |
Gerllaw | Afon Cart |
Cyfesurynnau | 55.8456°N 4.4239°W |
Cod SYG | S19000503 |
Cod OS | NS485635 |
Cod post | PA1, PA2, PA3 |
Dyma ganolfan weinyddol ardal cyngor Swydd Renfrew, a hi yw'r dref fwyaf yn y sir hanesyddol o'r un enw. Cyfeirir at Paisley yn aml fel "tref fwyaf yr Alban" a hi yw'r pumed anheddiad mwyaf yn y wlad, er nad oes ganddi statws dinas.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y dref boblogaeth o 76,830.[3]
Daeth y dref yn amlwg yn y 12g, pan sefydlwyd Abaty Paisley yn ganolbwynt crefyddol pwysig. Erbyn y 19g, roedd Paisley yn ganolfan i'r diwydiant gwehyddu, gan roi ei enw i'r "Paisley shawl" (hynny yw siôl bersli) a phatrwm Paisley. Roedd gan y dref gysylltiad cryf â radicaliaeth wleidyddol. Roedd gwehyddion yn y dref a oedd ar streic yn allweddol yn ystod yn Gwrthryfel Albanaidd ym 1820. Erbyn y 1990au, roedd holl felinau Paisley wedi cau, er eu bod yn cael eu coffáu yn amgueddfeydd y dref.
Enwogion
golygu- Robert II, brenin yr Alban (1316–1390)
- Fulton Mackay (1922-1987), actor
- Kenneth McKellar (1927-2010), canwr
- Tom Conti (g. 1941), actor
- Gerry Rafferty (1947-2011), cerddor
- Archie Gemmill (g. 1947]], pêl-droedwr
- Andrew Neil (g. 1949), newyddidurwr a chyflwynydd teledu
- Phyllis Logan (g. 1956), actores
- Mhairi Black (g. 1994), gwleidydd
Cyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 3 Hydref 2019
- ↑ Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba Archifwyd 2019-10-03 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 3 Hydref 2019
- ↑ City Population; adalwyd 3 Hydref 2019