Papurau newydd safonol

Term a ddefnyddir yn y Deyrnas Unedig i ddisgrifio papurau newydd difrif sy'n sylwi'n drwyadl ar wleidyddiaeth, economeg, a newyddion tramor yw papurau newydd safonol[1] (Saesneg: quality press).[2] Fe'u gelwir hefyd yn "y trymion" (Saesneg: the heavies), sy'n cyfeirio at faint a phwysau'r papurau eu hun yn ogystal â'u cynnwys difrif.[3]

Y papurau cenedlaethol a gynhwysir gan amlaf yn y categori hwn yw The Times, The Daily Telegraph, The Guardian, The Independent, a'u hargraffiadau cyfatebol ar Ddydd Sul, a'r Financial Times. Arferid cyhoeddi'r rhain i gyd mewn fformat yr argrafflen, ond newidodd y Times a'r Independent i faint tabloid yn 2004, a'r Guardian yn faint Berliner yn 2005. Cyferbynnir y rhain gyda'r tabloidau (megis The Sun a'r Daily Mirror) a phapurau canol y farchnad (megis y Daily Mail a'r Daily Express), sy'n fwy tebygol, yn enwedig yn achos y tabloidau, o ganolbwyntio ar enwogion a straeon cyffrous a chynhyrfus.

Anelir y papurau newydd safonol at gynulleidfa o ddarllenwyr sy'n llai o faint ond o "ben ucha'r farchnad".[2] Cyhuddir yr adran hon o'r wasg o elitiaeth gan rai o newyddiadurwyr y papurau sy'n fwy poblogaidd.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Papurau newydd safonol", Esboniadur (Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol). Adalwyd ar 19 Mawrth 2021.
  2. 2.0 2.1 Tony Harcup. A Dictionary of Journalism (Rhydychen: Oxford University Press, 2014), t. 256.
  3. 3.0 3.1 Harcup. Dictionary of Journalism (2014), t. 125.