Mudiad meddygol modern cynnar a seiliwyd ar ddamcaniaethau a therapïau Paracelsus ydyw Paraselsiaeth; Almaeneg: Paracelsismus).

Clawr argraffiad 1608 Kleine Wund-Artzney gan Benedictus Figulus, a seiliwyd ar nodiadau darlith gan yr Henuriad Basilius Amerbach (1488-1535) o ddarlithoedd gan Paracelsus yn ystod ei wyliau ym Masel (1527).

Spajyrig

golygu

Mae spajyrig, neu spajyria, yn ddull a ddatblygwyd gan Paracelsus a'i fyfyrwyr i wella, yn eu holau hwy, effeithiolrwydd meddyginiaethau drwy wahanu planhigion y moddion i mewn i'w helfennau bas, sef y tria prima: sylffwr, mercwri, a halen. Ar ôl eu gwahanu, ail-gyfunir hwy. Yr oedd ffisigwyr Paraselsiaeth yn credu bod y dull hwn yn gwahanu cynhwysion buddiol meddygol planhigyn (y tria prima pur) o elfennau niweidiol, gwenwynol y planhigyn, drwy, felly, rhai gwenwynau yn foddion hyd yn feddyginiaethau.[1]

Mae'r broses hon yn cynnwys eplesu, distyllu, ac echdynnu cyfansoddion mwynol o ludw'r planhigyn. Fel arfer, defnyddiwyd y prosesau hyn mewn alcemi canoloesol er mwyn gwahanu a phuro metelau oddi wrth fwynau (gweler Calchynnu), a halenau oddi wrth helïon a toddiannau dyfrllyd.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Principe, Lawrence M. (2013). The Secrets of Alchemy (yn Saesneg). Chicago: The University of Chicago Press. tt. 128–129. ISBN 978-0226103792.