Llwyth Celtaidd yn byw o gwmpas glannau Afon Seine yng Ngâl oedd y Parisii, weithiau Quarisii.

Darnau arian y Parisii, y ganrif 1af CC, (Cabinet des Médailles, Paris)

Gyda'u cymdogion y Suessiones, bu ganddynt ran yng ngwrthryfel Vercingetorix yn erbyn Iŵl Cesar yn 52 CC. Ei prifddinas, neu oppidum, oedd Lutetia Parisiorum, a ddaeth yn ddiweddarach yn ddinas bwysig yn nhalaith Rufeinig which Gallia Lugdunensis, ac yn ddiweddarach yn ddinas Paris.

Roedd llwyth o'r enw y Parisii yng ngogledd-ddwyrain Lloegr hefyd. Nid oes sicrwydd a oedd cysylltiad rhwng y ddau bobl.