Parth cyfannedd
Term mewn seryddiaeth yw'r parth cyfannedd sy'n cyfeirio at y parth o amgylch seren lle y byddai orbit planed yn caniatáu bywyd ar ei hwyneb[1][2]. (Neu o leiaf unrhyw fywyd y byddai'n ymdebygu i'r hyn y profwn ar y ddaear.) Y nodwedd bwysicaf yw'r amgylchiadau sy'n caniatáu dŵr hylif i fodoli ar ei hwyneb[3]. Yn agosach i'r seren, mi fyddai ei wres yn anweddu'r dŵr mewn modd y byddai'n arwain iddo ddiflannu i'r gofod. Yn bellach o'r seren ac mi fyddai holl ddŵr y blaned wedi rhewi - gan nacáu adweithiau biocemegol. Yn aml, cyfeirir at y parth yma fel y "parth Elen Penfelyn", er cof am y stori i blant o Loegr, Goldilocks and the three bears[4]. Crybwyllwyd y syniad yn ffurfiol yn gyntaf ym 1953 yn annibynnol gan Hubertus Strughold[5][6] a Harlow Shapely[7], er bod cyfeiriadau cyffredinol ato yn gynharach. Bellach mae cryn ddiddordeb mewn planedau allheulol sy'n troelli mewn parth o'r fath o amgylch sêr y tu hwnt i'r haul. Ystyrir hwynt yn gynefinoedd posibl i fywyd y tu hwnt i gysawd yr haul.
Delwedd artist o Barth Cyfannedd (gwyrdd) planed yn cylchdroi seren. | |
Enghraifft o'r canlynol | parth |
---|---|
Math | parth |
Rhan o | system blanedol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Mix, Lucas J., ed. (2006). [https://arxiv.org/ftp/astro-ph/papers/0610/0610926.pdf "The Astrobiology Primer: An Outline of General Knowledge—Version 1, 2006"]. Astrobiology 6 (5): 786. https://arxiv.org/ftp/astro-ph/papers/0610/0610926.pdf.
- ↑ von Hegner, Ian (2020). "A limbus mundi elucidation of habitability: the Goldilocks Edge". International Journal of Astrobiology 19 (4): (ar lein). https://www.cambridge.org/core/journals/international-journal-of-astrobiology/article/abs/limbus-mundi-elucidation-of-habitability-the-goldilocks-edge/4B91D3A4D4F32DCFDD4A872867E0E720.
- ↑ Bell III, James F. (2009). "Water on Planets". Proc. Int. Astronomical Union 5 (H15): 29-44. https://doi.org/10.1017/S1743921310008161.
- ↑ "Goldilocks and the Three Bears". Wikipedia. 14 Mawrth 2021. Cyrchwyd 6 Mai 2021.
- ↑ de Gouyon Matignon, Louis (19 Ionawr 2019). "The Birth of Space Medicine". Space Legal Issues. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-05-08. Cyrchwyd 6 Mai 2021.
- ↑ Hubertus, Strughold (1953). The Green and Red Planet: A Physiological Study of the Possibility of Life on Mars. University of New Mexico Press. ISBN 9781258366025.
- ↑ I J Falconer; J.G. Mena; J.J. O'Connor; T S C Peres; E F Robertson (2018). "Harlow Shapley". Prifysgol St. Andrews, Yr Alban. Cyrchwyd 6 Mai 2021.