Parth cyfannedd

parth o amgylch y seren gyda phosibiliadau cryf ar gyfer dŵr hylif

Term mewn seryddiaeth yw'r parth cyfannedd sy'n cyfeirio at y parth o amgylch seren lle y byddai orbit planed yn caniatáu bywyd ar ei hwyneb[1][2]. (Neu o leiaf unrhyw fywyd y byddai'n ymdebygu i'r hyn y profwn ar y ddaear.) Y nodwedd bwysicaf yw'r amgylchiadau sy'n caniatáu dŵr hylif i fodoli ar ei hwyneb[3]. Yn agosach i'r seren, mi fyddai ei wres yn anweddu'r dŵr mewn modd y byddai'n arwain iddo ddiflannu i'r gofod. Yn bellach o'r seren ac mi fyddai holl ddŵr y blaned wedi rhewi - gan nacáu adweithiau biocemegol. Yn aml, cyfeirir at y parth yma fel y "parth Elen Penfelyn", er cof am y stori i blant o Loegr, Goldilocks and the three bears[4]. Crybwyllwyd y syniad yn ffurfiol yn gyntaf ym 1953 yn annibynnol gan Hubertus Strughold[5][6] a Harlow Shapely[7], er bod cyfeiriadau cyffredinol ato yn gynharach. Bellach mae cryn ddiddordeb mewn planedau allheulol sy'n troelli mewn parth o'r fath o amgylch sêr y tu hwnt i'r haul. Ystyrir hwynt yn gynefinoedd posibl i fywyd y tu hwnt i gysawd yr haul.

Parth cyfannedd
Delwedd artist o Barth Cyfannedd (gwyrdd) planed yn cylchdroi seren.
Enghraifft o'r canlynolparth Edit this on Wikidata
Mathparth Edit this on Wikidata
Rhan osystem blanedol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyfeiriadau

golygu
  1. Mix, Lucas J., ed. (2006). [https://arxiv.org/ftp/astro-ph/papers/0610/0610926.pdf "The Astrobiology Primer: An Outline of General Knowledge—Version 1, 2006"]. Astrobiology 6 (5): 786. https://arxiv.org/ftp/astro-ph/papers/0610/0610926.pdf.
  2. von Hegner, Ian (2020). "A limbus mundi elucidation of habitability: the Goldilocks Edge". International Journal of Astrobiology 19 (4): (ar lein). https://www.cambridge.org/core/journals/international-journal-of-astrobiology/article/abs/limbus-mundi-elucidation-of-habitability-the-goldilocks-edge/4B91D3A4D4F32DCFDD4A872867E0E720.
  3. Bell III, James F. (2009). "Water on Planets". Proc. Int. Astronomical Union 5 (H15): 29-44. https://doi.org/10.1017/S1743921310008161.
  4. "Goldilocks and the Three Bears". Wikipedia. 14 Mawrth 2021. Cyrchwyd 6 Mai 2021.
  5. de Gouyon Matignon, Louis (19 Ionawr 2019). "The Birth of Space Medicine". Space Legal Issues. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-05-08. Cyrchwyd 6 Mai 2021.
  6. Hubertus, Strughold (1953). The Green and Red Planet: A Physiological Study of the Possibility of Life on Mars. University of New Mexico Press. ISBN 9781258366025.
  7. I J Falconer; J.G. Mena; J.J. O'Connor; T S C Peres; E F Robertson (2018). "Harlow Shapley". Prifysgol St. Andrews, Yr Alban. Cyrchwyd 6 Mai 2021.