Plaid wleidyddol geidwadol yn Sbaen yw'r Partido Popular (PP, "Plaid y Bobl"). Mae'n un o'r ddwy blaid fawr yn Sbaen, ac mae ganddi fwy na 700,000 o aelodau, y nifer fwyaf o unrhyw blaid yn Sbaen. Ar hyn o bryd, hi yw'r brif wrthblaid. Ffurfiwyd y blaid yn 1989, pan unodd plaid yr Alianza Popular gyda dwy blaid arall, y Partido Demócrata Popular a'r Partido Liberal Español.

Partido Popular
Enghraifft o'r canlynolpolitical party in Spain Edit this on Wikidata
IdiolegRhyddfrydiaeth, conservative liberalism, pro-Europeanism, rhyddfrydiaeth economaidd, Democratiaeth Gristnogol Edit this on Wikidata
Lliw/iauglas yr awyr Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu20 Ionawr 1989 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganPeople's Alliance, Liberal Party, Democratic Popular Party Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadllywydd y Partido Popular Edit this on Wikidata
SylfaenyddManuel Fraga Iribarne Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolEuropean People's Party, Centrist Democrat International, International Democracy Union Edit this on Wikidata
PencadlysMadrid Edit this on Wikidata
Enw brodorolPartido Popular Edit this on Wikidata
GwladwriaethSbaen Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.pp.es Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Mariano Rajoy yn annerch cyfarfod o'r PP ym Madrid yn 2005

Enillodd etholiad cyffredinol 1996, a bu mewn grym hyd 2004, pan orchfygwyd llywodraeth José María Aznar gan y blaid adain-chwith PSOE dan José Luis Rodríguez Zapatero. Ymddiswyddodd Aznar fel arweinydd y blaid, ac olynwyd ef gan Mariano Rajoy, yr arweinydd presennol. Collodd etholiad 2008 i'r PSOE unwaith eto, ond parhaodd Rajoy fel arweinydd.

Pleidleisiau'r Alianza Popular (19771986) a'r Partido Popular (19862008) yn etholiadau cyffredinol Sbaen.