Passport to Pimlico

ffilm gomedi gan Henry Cornelius a gyhoeddwyd yn 1950

Ffilm gomedi gan y cyfarwyddwr Henry Cornelius yw Passport to Pimlico a gyhoeddwyd yn 1950. Fe'i cynhyrchwyd yn y Deyrnas Gyfunol. Lleolwyd y stori yn Llundain. Sgwennwyd y sgript yn wreiddiol yn Saesneg a hynny gan T. E. B. Clarke a chyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Georges Auric. Dosbarthwyd y ffilm gan Ealing Studios a hynny drwy fideo ar alwad.

Passport to Pimlico
Enghraifft o'r canlynolffilm Edit this on Wikidata
Lliw/iaulliw, du-a-gwyn Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1950, 28 Ebrill 1949 Edit this on Wikidata
Genreffilm gomedi Edit this on Wikidata
CyfresEaling Comedies Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithLlundain Edit this on Wikidata
Hyd84 munud Edit this on Wikidata
CyfarwyddwrHenry Cornelius Edit this on Wikidata
Cynhyrchydd/wyrMichael Balcon Edit this on Wikidata
Cwmni cynhyrchuEaling Studios Edit this on Wikidata
CyfansoddwrGeorges Auric Edit this on Wikidata
DosbarthyddGeneral Film Distributors, Netflix Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolSaesneg Edit this on Wikidata
SinematograffyddLionel Banes Edit this on Wikidata

Y prif actorion yn y ffilm hon yw Margaret Rutherford, Charles Hawtrey, Hermione Baddeley, Barbara Murray, Basil Radford, Naunton Wayne, Stanley Holloway, Michael Hordern, Michael Knight, James Hayter, Raymond Huntley, Sydney Tafler, John Slater, Paul Dupuis a Philip Stainton. Mae'r ffilm yn 84 munud o hyd a chafodd ei ffilmio mewn du a gwyn. [1][2]

  • Stanley Holloway fel Arthur Pemberton
  • Betty Warren fel Connie Pemberton
  • Barbara Murray fel Shirley Pemberton
  • Paul Dupuis fel Sébfeltien de Charolais, Dug Byrgwyn
  • John Slater fel Frank Huggins
  • Jane Hylton fel Molly Reed
  • Raymond Huntley fel Mr. Wix
  • Philip Stainton fel Cwnstabl Spiller
  • Roy Carr fel Benny Spiller
  • Sydney Tafler fel Fred Cowan
  • Nancy Gabrielle fel Mrs. Cowan
  • Malcolm Knight fel Monty Cowan
  • Hermione Baddeley fel Edie Randall
  • Roy Gladdish fel Charlie Randall
  • Frederick Piper fel Jim Garland
  • Charles Hawtrey fel Bert Fitch
  • Margaret Rutherford fel yr Athro Hatton-Jones
  • Naunton Wayne fel Straker
  • Basil Radford fel Gregg
  • Paul Demel fel gŵr o ganolbarth Ewrop

[3]

Mae credydau agoriadol y ffilm yn gorffen gyda'r geiriau "cyflwynedig er cof am", gyda delwedd o gwponau dogni bwyd a dillad Prydeinig o'r Ail Ryfel Byd.[4]

Yn Llundain yn y cyfnod ychydig ar ôl yr Ail Ryfel Byd, mae bom oedd heb ei ffrwydro yn tanio yng Ngerddi Miramont, Pimlico. Mae’r ffrwydrad yn datgelu seler oedd wedi’i chladdu ers oesoedd. Mae'r seler yn cynnwys gwaith celf, darnau arian, gemwaith a llawysgrif hynafol. Mae’r ddogfen yn cael ei dilysu gan yr hanesydd yr Athro Hatton-Jones fel siarter frenhinol o ddyddiau Edward IV a ildiodd dŷ a’i ystâd i Siarl VII, Dug olaf Bwrgwyn , pan geisiodd loches yno ar ôl cael ei dybio’n farw ym Mrwydr Nancy ym 1477. Gan na chafodd y siarter ei dirymu, datganwyd bod ardal o Pimlico yn barhau i fod yn rhan gyfreithiol o Fwrgwyn.

Gan nad oes gan lywodraeth Prydain awdurdod gyfreithiol dros yr ardal yn ôl telerau'r siarter hynafol, mae'n rhaid i drigolion yr ardal ffurfio cyngor, yn unol â chyfreithiau'r Ddugaeth darfodedig, er mwyn negodi telerau diddymu'r siarter. Mae cyfraith hynafol Bwrgwyn yn mynnu bod y dug ei hun i benodi 'r cyngor. Mae Sébastien de Charolais yn cyrraedd ac yn cyflwyno ei hawl i’r dugaeth. Mae ei hawl yn cael ei wirio a'i gadarnhau gan yr Athro Hatton-Jones. Mae'r Dug yn ffurfio'r corff llywodraethol, sy'n dechrau trafodaethau gyda llywodraeth Prydain. Mae'r cwestiwn o bwy bia'r trysorau gwerthfawr oedd yn y seler yn ddod yn asgwrn cynnen.

Ar ôl iddi wawrio ar y trigolion nad yw rheolau dogni  na chyfyngiadau biwrocrataidd eraill Prydain ôl rhyfel yn berthnasol i Pimlico Fyrgwyn, mae cannoedd o spivs y farchnad du yn symud i'r ardal. Mae'r awdurdodau lleol yn fethu ymdopi a'r broblem. Mewn ymateb, mae'r awdurdodau Prydeinig yn amgylchynu tiriogaeth Bwrgwyn gyda weiren bigog. Mae'r trigolion yn dial yn erbyn yr hyn a welant fel gweithred llawdrwm; trwy atal trên tanddaearol Llundain wrth iddo fynd trwy Fwrgwyn, gan ofyn am weld pasbortau pob teithiwr: mae’r rhai heb ddogfennau yn cael eu hatal rhag deithio trwy'r wladwriaeth.

Mae llywodraeth Prydain yn dial trwy dorri'r trafodaethau ac ynysu Bwrgwyn. Gwahoddir y trigolion i "ymfudo" i Loegr, ond ychydig sy'n gadael. Mae cyflenwadau egni, dŵr a chyflenwadau bwyd yn cael eu hatal gan Brydain. Mae'r trigolion yn cael eu digalonni gan y problemau maent yn ei wynebu ac yn paratoi i ildio. Mae Llundeinwyr cydymdeimlom yn dechrau taflu parseli bwyd ar draws y rhwystr.

Yn y cyfamser, mae llywodraeth Prydain yn dod o dan bwysau cyhoeddus i ddatrys y sefyllfa. Daw'n amlwg i'r diplomyddion Prydeinig a neilltuwyd i ddod o hyd i ateb, bod trechu'r Bwrgwyniaid trwy newyn yn anodd ac yn amhoblogaidd gyda phobl Prydain, felly maent yn penderfynu mynd ati eto i negodi. Oherwydd mae'r trysor a ddarganfuwyd yw brif asgwrn yn y gynnen mae'r gynnen yn cael ei orchfygu trwy i drysor Bwrgwyn cael ei fenthyg i Brydain. Mae'r cyfaddawd yn dderbyniol i'r ddwy ochr ac mae Bwrgwyn yn aduno â Phrydain. Mae'r aduno yn achosi i ddogni ar gyfer bwyd a dillad i ddychwelyd i'r ardal.

Cyfarwyddwr

golygu

Ganwyd y cyfarwyddwr ffilm Henry Cornelius ar 18 Awst 1913 yn Nhref y Penrhyn a bu farw yn Llundain ar 8 Tachwedd 1997. Roedd yn fwyaf cynhyrchiol yn 1936 ond ni ellir dweud fod y gwaith wedi cyrraedd enwogrwydd byd-eang.

Derbyniad

golygu

Rhoddwyd y marciau canlynol mewn adolygiadau o'r ffilm:

  • 94%[5] (Rotten Tomatoes)
  • 7.7/10[5] (Rotten Tomatoes)

.

Gweler hefyd

golygu

Cyhoeddodd Henry Cornelius nifer o ffilmiau gan gynnwys y canlynol:

Rhestr Wicidata:

Ffilm Delwedd Gwlad Iaith wreiddiol dyddiad
Genevieve
 
y Deyrnas Unedig Saesneg 1953-01-01
I am a Camera y Deyrnas Unedig Saesneg 1955-01-01
Next to No Time y Deyrnas Unedig Saesneg 1958-01-01
Passport to Pimlico y Deyrnas Unedig Saesneg 1949-04-28
The Galloping Major y Deyrnas Unedig Saesneg 1951-01-01
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Dyddiad cyhoeddi: https://www.imdb.com/title/tt0041737/releaseinfo/. Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 30 Mawrth 2024.
  2. Cyfarwyddwr: http://www.imdb.com/title/tt0041737/. dyddiad cyrchiad: 13 Ebrill 2016.
  3. Passport to Pimlico (1949) - IMDb, http://www.imdb.com/title/tt0041737/fullcredits, adalwyd 2022-10-14
  4. "BFI Screenonline: Passport to Pimlico (1949) Synopsis". www.screenonline.org.uk. Cyrchwyd 2022-10-14.
  5. 5.0 5.1 "Passport to Pimlico". Rotten Tomatoes. Cyrchwyd 6 Hydref 2021.