Pat Nixon
Roedd Thelma Catherine "Pat" Nixon (Ryan yn gynt; 16 Mawrth 1912 – 22 Mehefin 1993) yn wraig i Richard Nixon, 37ain Arlywydd yr Unol Daleithiau. Gwasanaethodd fel Prif Foneddiges yr Unol Daleithiau o 1969 tan ymddiswyddiad ei gŵr ym 1974 oherwydd sgandal Watergate. Daliodd y swydd Is-Brif Foneddiges yr Unol Daleithiau o 1953 i 1961.
Pat Nixon | |
![]()
| |
Cyfnod yn y swydd 20 Ionawr 1969 – 9 Awst 1974 | |
Arlywydd | Richard Nixon |
---|---|
Rhagflaenydd | Lady Bird Johnson |
Olynydd | Betty Ford |
Cyfnod yn y swydd 20 Ionawr 1953 – 20 Ionawr 1961 | |
Arlywydd | Dwight D. Eisenhower |
Rhagflaenydd | Jane Barkley |
Olynydd | Lady Bird Johnson |
Geni | 16 Mawrth 1912 Ely, Nevada, Yr Unol Daleithiau |
Marw | 22 Mehefin 1993 (81 oed) Park Ridge, New Jersey, Yr Unol Daleithiau |
Plaid wleidyddol | Plaid Weriniaethol |
Priod | Richard Nixon |
Llofnod | ![]() |
Magwraeth ac addysgGolygu
Fe'i ganed yn Ely, Nevada, a'i magwyd gyda'i dau frawd yn Cerritos, Califfornia. Morwr a mwynwr aur o dras Gwyddelig oedd ei thad, William M. Ryan Sr., a'i mam Katherine Halberstadt o dras Almaenig.[1] Fe'i galwyd yn "Pat" gan ei thad, gan gyfeirio at y ffaith iddi gael ei geni ddiwrnod cyn Gŵyl Sant Padrig.
Fe'i derbyniwyd ar gwrs ym Mhrifysgol De Califfornia a thalodd am y cwrs hwnnw drwy weithio mewn fferyllfa, swyddfa, ysbyty fel radiograffydd ac fel clerc. Priododd Richard Nixon yn 1940 a chawsant ddau o blant.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ "First Lady Biography: Pat Nixon". The National First Ladies Library. 2005. Cyrchwyd August 15, 2007.
Rhagflaenydd: Lady Bird Johnson |
Prif Foneddiges yr Unol Daleithiau 1969 – 1974 |
Olynydd: Betty Ford |