Patty Hearst
Etifeddes papur newydd ac actores Americanaidd yw Patricia Campbell Hearst (ganwyd 20 Chwefror 1954 yn San Francisco, Califfornia), a elwir nawr yn Patricia Hearst Shaw. Hi yw wyres y mogwl cyhoeddi a gwasg William Randolph Hearst.
Patty Hearst | |
---|---|
Ffugenw | Tania |
Ganwyd | Patricia Campbell Hearst 20 Chwefror 1954 San Francisco |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor, cymdeithaswr, lleidr banc, actor teledu, actor ffilm, sgriptiwr |
Tad | Randolph Apperson Hearst |
Mam | Catherine Wood Campbell |
Plant | Lydia Hearst-Shaw |
Daeth yn enwog yn 1974 pan, yn dilyn ei herwgipiad gan y Symbionese Liberation Army (SLA), ymunodd hi a'i hergipwyr o blaid eu hachos. Arestiwyd ar ôl cymryd rhan mewn lladrad banc gydag aelodau SLA eraill a charcharwyd am bron i ddwy mlynedd cyn cafodd ei dedfryd ei chymudo gan yr Arlywydd Jimmy Carter. Yn hwyrach derbyniodd pardwn arlywyddol gan Bill Clinton.
Bywgraffiad
golyguGanwyd Hearst yn San Francisco, Califfornia, y drydedd o pum merch Randolph Apperson Hearst a Catherine Wood Campbell. Treuliodd y mwyafrif o'i phlentyndod ym maestref gyfoethog Hillsborough. Mynychodd Ysgol Ferched Crystal Springs yn Hillsborough ac Ysgol Ferched Santa Catalina ym Monterey. Ymhysg ei chyfeillion agos oedd Patricia Tobin, aelod o'r teulu a sefydlodd Banc Hibernia.
Herwgipiad a'i hamser gyda'r SLA
golyguAr 4 Chwefror 1974, herwgipiwyd Hearst, oed 19, o'r rhandy roedd hi'n rhannu gyda'i dyweddi Steven Weed yn Berkeley, Califfornia, gan grŵp herwfilwrol trefol adain-chwith o'r enw'r Symbionese Liberation Army (SLA). Pan fethodd yr ymgais i gyfnewid Hearst am aelodau carcharedig o'r SLA, gorchmynodd yr SLA i deulu'r wystl dosbarthu gwerth $70 o fwyd i bob Califforniad – gweithred bydd wedi costio tua $400 miliwn. Fel ymateb, trefnodd tad Hearst i roi gwerth $6 miliwn o fwyd i bobl dlawd Ardal y Bae. Ar ôl dosbarthu'r bwyd, gwrthododd yr SLA rhyddhau Hearst oherwydd ystyrion nhw roedd y bwyd o safon isel. (Mewn recordiad dilynol a anfonwyd i'r wasg, dywedodd Hearst gall ei thad wedi gwneud yn well.)
Ar 15 Ebrill 1974, cafodd ei ffotograffio yn dal reiffl ymosodol wrth ysbeilio ganghen Sunset District Banc Hibernia yn 1450 Noriega Street yn San Francisco. Cyhoeddwyd cysylltiadau ymhellach o hi o dan y ffugenw Tania (o lysenw'r herwfilwres Haydée Tamara Bunke Bider) a oedd yn haeru bod hi'n ymrwymedig i amcanion yr SLA. Cyhoeddwyd gwarant i'w harestio ac ym Medi 1975, cafodd ei harestio mewn rhandy yn San Francisco gydag aelodau eraill o'r SLA.
Yn ei hachos llys, a ddechreuodd ar 15 Ionawr 1976, dywedodd twrnai Hearst, F. Lee Bailey, cafodd hi ei mygydu, ei charcharu mewn closet cul, a'i chamdrin yn gorfforol ac yn rhywiol. Craidd ei hamddiffyniad oedd bod gweithredoedd hi yn ganlyniad o raglen pwylldreisio gydunol. (Mae gweithredoedd Hearst hefyd wedi eu priodoli i Syndrom Stockholm, pan mae gwystlon yn cydymdeimlo ag amcanion eu dalwyr.) Yn ogystal, dadleuodd Bailey cafodd hi ei gorfodi a'i brawychu i gymryd rhan yn y lladrad banc.
Dywedodd dadansoddwyr cyfreithiol ac yn hwyrach Hearst ei hunan wnaeth Bailey dim digon i amddiffyn hi. Rhoddodd Bailey dadleuon cau byr a gwan iawn yn yr achos llys. Euogfarnwyd Hearst o ladrad banc ar 20 Mawrth 1976. Cymudwyd ei chyfnod o saith mlynedd mewn carchar gan yr Arlywydd Jimmy Carter, a rhyddhawyd Hearst o'r carchar ar 1 Chwefror 1979, ar ôl treulio dim ond 22 mis yna. Derbyniodd pardwn llawn gan yr Arlywydd Bill Clinton ar 20 Ionawr 2001, diwrnod olaf ei arlywyddiaeth.
Bywyd teuluol
golyguAr ôl iddi adael carchar, priododd Hearst ei chyn-warchodwr, Bernard Shaw. Maent yn byw gyda'i gilydd a'u dwy ferch yn Wilton, Connecticut.
Merched Hearst yw'r fodel Lydia Hearst-Shaw a Gillian Hearst-Shaw. Ei nith yw'r fodel Amanda Hearst.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Lucas, Dean (2007). Famous Pictures Magazine - Patty Hearst. Famous Pictures Magazine. Adalwyd ar 6 Hydref, 2007.