Paul Whitehouse

actor a aned yn Stanleytown yn 1958

Digrifwr ac actor Cymreig yw Paul Whitehouse (ganwyd 17 Mai 1958). Daeth yn adnabyddus am ei waith gyda Harry Enfield ac fel un o serennau sioe sgets y BBC, The Fast Show. Mewn arolwg barn yn 2005 i ganfod Digrifwr y Digrifwr (The Comedian's Comedian), daeth ar frig y 50 act a bleidleiswyd drostynt gan ddigrifwyr a phobl o fewn y diwyllant comedi.

Paul Whitehouse
Ganwyd17 Mai 1958 Edit this on Wikidata
Stanleytown Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Prifysgol Dwyrain Anglia
  • Chace Community School Edit this on Wikidata
Galwedigaethdigrifwr, actor, sgriptiwr, actor teledu Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Whitehouse yn Stanleytown, Cwm Rhondda, Morgannwg.[1] Roedd ei dad Harry yn gweithio ar gyfer y Bwrdd Glo Cenedlaethol a'i fam Anita yn gantores gydag Opera Cenedlaethol Cymru.[2] Symudodd y teulu i Essex, pan oedd yn bedwar mlwydd oed, ac arweiniodd hyn at ganfod ei ddoniau fel dynwaredwr:[1]

At school I didn’t say a word for the first four weeks – I called it my Silent Month. I think it was because everyone was speaking so differently from how it had been in Wales. Then, after four weeks, I came home one day and said, ‘Muumm, I wanna go to Sarfend!’ For her that was the end because I had lost my lovely Welsh lilt. So I became very conscious of speech and the effects it can have. But when I went back to Wales I would start talking all Welsh, ‘lyke that you see’ before going all Alf Garnett while coming back the other way.

Gyrfa cynnar golygu

Mynychodd Whitehouse Brifysgol Dwyrain Anglia yn Norwich o Hydref 1977, lle cyfarfu Charlie Higson.[3] Prin oedd yr amser a dreuliodd y ddau yn astudio, am eu bod mewn band pync-roc, The Right Handed Lovers. Gadawodd Whitehouse y brifysgol a bu'n byw â dropowts eraill mewn fflat cyngor yn Hackney, dwyrain Llundain, a chafodd waith achlysurol fel plastrwr. Ar ôl i Higson raddio ym 1980 symudodd Whitehouse i fyw ag ef, yn gweithio fel peintiwr a phapurwr gyda'r dydd ac yn perfformio yn y grŵp pync-ffync The Higsons liw nos.[4]

Dechreuodd y ddau waith yn peintio a phapuro tŷ'r digrifwyr Stephen Fry a Hugh Laurie, ac ysbrydolwyd hwy i ddechrau ysgrifennu comedïau gan hyn. Symudon nhw i ystâd cyngor lle'r oedd Harry Enfield yn un o'u cymdogion,[4] a phan gafodd Enfield slot at raglen Sianel 4, Saturday Live, estynnodd wahoddiad i'r pâr i ysgrifennu ar ei gyfer.[3] Ymddangosodd Whitehouse ar y rhaglen fel "Lance", sidekick Enfield, ac fe greodd ddau o'r cymeriadau a chwaraewyd gan Enfield hefyd: "Stavros", perchennog siop cebabau o Roegwr oedd wedi ymgartrefu yn Llundain, a "Loadsamoney", yr ariangarwr o Essex ag ymgorfforodd ysbryd y 1980au dan Margaret Thatcher.

Dyma oedd trobwynt gyrfaoedd Whitehouse a Higson, a dechreuont ysgrifennu ar gyfer Vic Reeves's Big Night Out ac yn helaeth ar gyfer rhaglenni'r BBC, yn gyntaf A Bit of Fry and Laurie a The Paul Merton Show. Perfformiodd Whitehouse ar raglenni megis Harry Enfield's Television Programme, lle datblygodd amrywiol gymeriadau gan gynnwys "DJ Mike Smash" yn y sgetsys "Smashie and Nicey", lle chwaraewyd Nicey gan Harry Enfield.

Gyrfa Teledu golygu

The Fast Show golygu

Tra'n gwylio tâp rhagolwg o'r uchafbwyntiau o sioe Enfield, ysbrydolwyd Whitehouse a Higson i greu sioe gomedi cyflym, The Fast Show. Roedd cymeriadau Whitehouse yn cynnwys:

Oherwydd yr holl gymeriadau eang mae Whitehouse yn chwarae, dywedodd Johnny Depp ei fod yn un o'r actorion gorau mae wedi ei weld. Mae Depp yn ffan of the The Fast Show ac yn gwneud ymddangosiad gwestai yn un o'r rhaglenni.[3]

Happiness golygu

Yn 2001 a 2002 ysgrifennodd a pherfformiodd Whitehouse dwy gyfres o'r sioe ddrama BBC Happiness, lle bu'n chwarae rôl actor llais yn cael argyfwng canol oed.

Help golygu

Ysgrifennodd, ymddangosodd a chynhyrchodd Whitehouse drama ddigri Help yn 2005 ar gyfer y BBC ynghyd â Chris Langham. Roedd ganddo 25 rôl yn y ffilm, i gyd yn gleifion i seicotherapydd Langham (heblaw un sy'n seicotherapydd i'r seicotherapydd). Fel canlyniad o'u cydweithrediad, cymerodd Whitehouse y stand fel tyst ar 24 Gorffennaf 2007 ym mhrawf llys Langham, ynglŷn â'r cyhuddiad o fod n berched ar luniau anweddus o blant. Hnodd Langham ei fod wedi lawrlwytho'r deunydd fel ymchwil i gymeriad yn ail gyfres Help, ond nid oedd tystiolaeth Whitehouse yn cyd-dynnu gyda'r eglurhad hwn.[5]

Harry and Paul golygu

Mae Whitehouse yn ymddangos mewn sioe sgets BBC Harry and Paul (adnabyddwyd yn gynt fel Ruddy Hell! It's Harry and Paul), yn serennu ynghyd â Harry Enfield.[6]

Bellamy's People golygu

Gweithiodd Whitehouse gyda Higson unwaith eto ar brosiect teledu, Bellamy’s Kingdom,[4] oedd yn spoof o sioeau teithio enwogion.[7]

Radio golygu

Ymddangosodd a chynhyrchodd Whitehouse a Charlie Higson raglen ffonio-i-mewn spoof Down the Line ar BBC Radio 4. Darlledwyd y gyfres cyntaf rhwng Mai a Mehefin. Darlledwyd ai l gyfres 16 Ionawr – 20 Chwefror 2007, enillont wobr Sony Radio Academy Award am hyn.[8] Darlledwyd trydedd cyfres ym mis Ionawr 2008.

Hysbysebu golygu

Yn haf 2007, ymddangosodd Whitehouse yn ymgyrch hysbysebu ASDA, yn dilyn Victoria Wood.

Ysbrydoliaeth golygu

Prif ddylanwadau cynnar Whitehouse oedd sgetsys Peter Cook a Dudley Moore, a chriw y Monty Python. Roedd Tommy Cooper, Morecambe and Wise a sioe deledu Dad's Army yn gwneud iddo chwerthin. Dywedai mai Harry Enfield ac ymdriniaeth Reeves and Mortimer yw ei ddylanwadau cyfoes.[9]

Ffilmograffi golygu

Mae Whitehouse wedi chwarae sawl rôl mewn ffilm:

Cyfeiriadau golygu

Dolenni Allanol golygu