Stanleytown

pentref yn Rhondda Cynon Taf

Pentref yng nghymuned Pendyrus, Rhondda Cynon Taf, yw Stanleytown.[1][2] Lleolir nesaf at bentrefi Blaenllechau, Glynrhedynog a Phendyrus.

Stanleytown
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRhondda Cynon Taf Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.643°N 3.43°W Edit this on Wikidata
Cod OSST011947 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElizabeth (Buffy) Williams (Llafur)
AS/auChris Bryant (Llafur)
Map

Hanes golygu

Mae wedi'i lleoli ym mhlwyf hynafol Llanwynno. Caeodd pwll glo olaf y pentref yn y 1960au a dechreuodd cyfnod o ddirywiad economaidd. Gwaethygodd hyn pan gaeodd glofeydd ardaloedd gerllaw (fel y Maerdy) yn dilyn streic y glowyr 1984-85. Yn ychwanegol, daeth cymudo i Gaerdydd yn anoddach ar ôl i doriadau Beeching gau'r rheilffordd lleol.

Mae Stanleytown yn rhan o ward etholiadol Pendyrus. Mae ffordd osgoi newydd yn caniatáu trafnidiaeth allanol a buddsoddiad mewnol i'r ardal. Cymerodd y prosiect amser hir i'w gwblhau oherwydd diffyg lle gwastad yn y Rhondda Fach.

Mae gan y pentref dîm pêl-droed ac mae'n rhannu clwb rygbi gyda Phendyrus.

Preswylwyr Nodedig golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 7 Rhagfyr 2021
  3. Bevan, Nathan (2007-10-27). "Comic Paul tells of talent change". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-12-06.