Pedwarawd (drama deledu)

Drama deledu gan John Gwilym Jones yw Pedwarawd a ddarlledwyd ar Deledu Harlech [HTV] ym mis Mawrth 1977.[1]

Pedwarawd
AwdurJohn Gwilym Jones
Mathdrama deledu
Dyddiad y perff. 1afMawrth 1977
CyfarwyddwrHuw Davies
Cwmni cynhyrchuTeledu Harlech

Disgrifiodd Bob Roberts y rhaglen fel "digwyddiad arall o bwys, tua Gŵyl Ddewi eleni" yn rhifyn mis Ebrill 1977, o Barn.[1]

"Roedd y ddrama hon eto yn enghraifft deg o feistrolaeth John Gwilym Jones ar ruthmau deialog ac ar saernïaeth drama, er fod saerniaeth Pedwarawd, o bosibl, yn or-amlwg. Er fod y teitl yn cyfeirio at y ddau bâr sy'n poblogi'r ddrama, mae rhywbeth yn debyg i bedwarawd Ilinynnol yn ffurf ac adeiladwaith y ddrama. [...] Efallai fod ffurf symetrig y ddrama hon wedi cyfyngu braidd yn ormodol ar y gymeriadaeth, ac nid oedd gan yr un o'r cymeriadau yr egni a'r annibynniaeth sy'n nodweddu cymeriadau Ac Eto Nid Myfi. Ar wahân i Beryl Williams, nid oeddwn yn teimlo fod yr actorion eraill wedi Ilwyddo i greu cymeriadau cyfangwbl gredadwy a chrwn. Roedd y cyfarwyddo yn sicr a deallus, serch hynny."[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 Roberts, Bob (Ebrill 1977). "Nodiadau Teledu". Barn 171.