Beryl Williams

actores a aned yn 1937

Actores o Gymraes oedd Beryl Williams (12 Rhagfyr 193718 Mehefin 2004).[1]

Beryl Williams
Ganwyd12 Rhagfyr 1937 Edit this on Wikidata
Dolgellau Edit this on Wikidata
Bu farwMehefin 2004, 18 Mehefin 2004 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

golygu

Fe'i ganed yn Nolgellau yn ferch i deiliwr alcoholig.[2] Mynychodd Ysgol breswyl Dr. Williams i ferched wedi iddi dderbyn ysgoloriaeth. Cymerodd ran mewn dramâu yn yr ysgol cyn mynd yn fyfyrwraig i Goleg Drama Rose Bruford yn Llundain. Tra yno, cyfarfu a Freddie Jones sef un o brif actorion y theatr yn Lloegr a datblygodd berthynas rhyngddynt.[2] Serch hynny, ar ôl iddi orffen ei chwrs dychwelodd i Ddolgellau.

Bu'n aelod o Gwmni Theatr Cymru yn y 1970au gan berfformio a chyfarwyddo sawl cynhyrchiad, ac yn ddiweddarch gyda Theatr Bara Caws. Bu'n gweithio fel actores tan y 1990au gan berfformio mewn cynyrchiadau ar gyfer y BBC, Cwmni Theatr Cymru, ambell gynhyrchiad Saesneg a dramâu S4C yn y 1980au. Roedd yn adnabyddus am chwarae y wraig tŷ Gwen Elis yn y gyfres ddrama Minafon. Bu Williams yn gweithio gyda'r cynhyrchydd a'r cyfarwyddwr drama Wilbert Lloyd Roberts ar amryw o ddramâu teledu arloesol gan gynnwys A Rhai yn Fugeiliaid gan Islwyn Ffowc Elis (1961) a'r Byd ar Betws, gyda David Lyn a Gaynor Morgan Rees.

 
Beryl Williams fel Nel S4C

Enillodd wobr Bafta Cymru yn 1991 am y brif rhan yn nrama Meic Povey, Nel.[1]

Talodd yr actor Dyfan Roberts deyrnged hyfryd iddi, wedi ei marwolaeth cyn-amserol yn 2004:

"Sut y disgrifiodd Sharon Morgan hi? Y gair oedd ‘ethereal’. Arallfydol. Stewart Jones yntau yn ei gweld am y tro cyntaf pan oedd hi’n athrawes ifanc yn ysgol Dr. Williams Dolgellau, ac yn dal sylw ar y tawelwch yna, yr ‘aura’ o’i chwmpas hi. Michael Povey yn dweud yr hanes amdano’n mynd am gyfweliad efo Cwmni Theatr Cymru am y tro cyntaf [...] Ond o gornel ei lygaid, yn y blwch rheoli, gwelai Michael bresenoldeb arall. Dynes hardd gwallt coch yn edrych a gwrando arno â ddiddordeb o’r tu hwnt i’r gwydr. O ble daeth y rhyfeddod prin yma? Pwy oedd Beryl Williams? Holi nifer o gyfoedion, cydweithwyr a ffrindiau Beryl wrth baratoi’r erthygl hon, a chael yr un ateb. ‘Roedd pawb yn ei hadnabod- at ryw bwynt. Ond roedd ‘na ffîn na châi neb weld ei ddatgelu. Mae’n eironig bod actores yn berson mor breifat. Osgoi sylw fel y pla â wnai Beryl. Ond o edrych yn ôl wedi ei marwolaeth gynamserol, yn y preifatrwydd yna yr oedd ei chryfder. Roedd y dirgelwch yna, yr ‘enigma’ fel y galwodd John Ogwen o, yn ychwanegu at ddyfnder ac at gryfder perfformiadau a dylanwad actores arbenica’r Gymraeg yn ail hanner yr ugeinfed ganrif"[2]

Teledu a Ffilm

golygu
  • A Rhai Yn Fugeiliaid (1961) BBC Cymru
  • Byd A'r Betws BBC Cymru
  • Mostyn BBC Cymru
  • Enoc Huws BBC Cymru
  • Tresarn (1970) BBC Cymru
  • In Loving Memory (1970) BBC Cymru
  • Pobol Y Cwm BBC Cymru
  • The Revivalist - BBC Cymru
  • Ifas Y Tryc - Bwrdd Ffilmiau
  • Owain Glyndŵr - Bwrdd Ffilmiau
  • Dinas HTV (ffilm)
  • Minafon (1983) S4C
  • Gwen Tomos BBC
  • Hywel Morgan S4C
  • Annest S4C
  • Eistedd Dros Ddŵr BBC
  • Tywyll Heno S4C
  • Sul Y Blodau BBC
  • Nel S4C
  • Paradwys Ffŵl (1993) S4C

Theatr*

golygu

*gyda Cwmni Theatr Cymru, oni nodi yn wahanol.

1960au

golygu

1970au

golygu

1980au

golygu

1990au

golygu

Cyfeiriadau

golygu