Agor y brif ddewislen

John Gwilym Jones (dramodydd)

Dramodydd a darlithydd Cymraeg oedd y Dr. John Gwilym Jones (27 Medi 190416 Hydref 1988). Fe'i ganwyd yn y Groeslon, Dyffryn Nantlle.

John Gwilym Jones
Ganwyd 27 Medi 1904 Edit this on Wikidata
Groeslon Edit this on Wikidata
Bu farw 16 Hydref 1988 Edit this on Wikidata (84 oed)
Groeslon Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Dramodydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus am Rhyfedd y'n Gwnaed Edit this on Wikidata
Am y bardd, gweler John Gwilym Jones (bardd)

Bu'n athro yn Llundain cyn cael ei benodi yn gynhyrchydd drama gyda'r BBC, ac yna bu'n ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Bangor. Fe ysbrydolodd genedlaethau o fyfyrwyr, a daeth nifer ohonyn nhw'n nofelwyr Cymraeg enwog, rhai fel John Rowlands, Jane Edwards ac Eigra Lewis Roberts. Ysbrydolodd hefyd lu o actorion, megis Maureen Rhys.[1]

Cafodd ei daro'n wael wrth ail-agor festri Capel Brynrhos, Groeslon a bu'n farw fuan wedyn. Cafodd ei ymlosgi ym Mangor ar 21 Hydref, a fe gladdwyd ei lwch ym medd ei rieni yn Llandwrog.[2]

Sefydlwyd Cymdeithas John Gwilym Jones, cymdeithas lên Gymraeg Prifysgol Bangor, ar yr 2il o Hydref 2018 er cof amdano. Penderfynwyd enwi'r Gymdeithas ar ôl y dramodydd enwog am y cred nifer o bobl na wnaed digon i goffau'r llenor o'r Groeslon wedi ei farwolaeth.

GweithiauGolygu

DramâuGolygu

  • Y Brodyr 1934
  • Diofal yw Dim 1942
  • Hanes Rhyw Gymro 1954 - am Morgan Llwyd
  • Lle Mynno'r Gwynt 1958
  • Gŵr Llonydd 1958
  • Y Tad a'r Mab 1963
  • Pedair Drama 1971
  • Rhyfedd y'n Gwnaed (1976)
  • Ac Eto Nid Myfi 1976
  • Yr Adduned 1979

NofelauGolygu

  • Y Dewis 1942
  • Tri Diwrnod ac Angladd 1979

StorïauGolygu

  • Y Goeden Eirin 1946

YsgolheictodGolygu

LlyfryddiaethGolygu

CyfeiriadauGolygu

Dolen allanolGolygu