Ac Eto Nid Myfi (drama lwyfan)
Drama lwyfan hir [3 Act] o waith y dramodydd John Gwilym Jones yw Ac Eto Nid Myfi a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn Ionawr 1976. Cyfansoddwyd y ddrama ar gyfer Cymdeithas y Ddrama Gymraeg Prifysgol Bangor a'i llwyfanodd gyntaf ym Mawrth 1976, gyda'r dramodydd ei hun yn cyfarwyddo.[1]
Enghraifft o'r canlynol | drama lwyfan |
---|---|
Awdur | John Gwilym Jones |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | Ionawr 1976 |
Lleoliad y perff. 1af | Prifysgol Bangor |
Dyddiad y perff. 1af | Mawrth 1976 |
Disgrifiad byr
golyguHanes llanc ifanc 22 oed o'r enw 'Huw Jones', sydd yn y ddrama, wrth iddo edrych yn ôl ar ei blentyndod ac ar ddylanwadau ei deulu a'i fagwraeth arno, wrth iddo ef drio dod i'w adnabod ei hun. Y cwestiynau pwysicaf a godir ganddi yw pwy ydym ni, a beth sy’n pennu llwybr ein bywyd.
Yn ôl un beirniad llenyddol o Brifysgol Bangor, Gareth Evans-Jones, "Craidd y ddrama Ac Eto Nid Myfi yw myfyrdod Huw ar natur ei gymeriad. Yr hyn sy'n ei orfodi i astudio ei hun yw Alis yn gwrthod ei briodi er ei bod yn feichiog. Y rheswm a rydd Alis sy'n peri dryswch i Huw, sef 'Am mai chi ydach chi!', Nid oes ganddi reswm rhesymegol fel y cyfryw, ond y mae ganddi deimlad, ac mae'r teimlad hwnnw, ei greddf, yn drech nag unrhyw synnwyr."[2]
Crynodeb
golyguAct 1
golyguGolygfa fer iawn sy'n agor Act 1 rhwng Huw [22 oed] ac Alis [22 oed], wrth iddi'n amlwg ei wrthod, heb roi rheswm llawn nac esbonio beth oedd y cynnig. "Am mai chi ydach chi!" ydi'r cwbl ddywed Alis, sy'n gyrru'r ddrama yn syth i ymson [monolog] gan Huw ynglyn â'i hateb.[3]
"Peth arswydus ydi fod dyn yn cael ei eni yn fo'i hun a neb arall", sy'n cychwyn llith Huw 'wrth y gynulleidfa' wrth iddo geisio gwneud synnwyr o ateb Alis, ac yn y pendraw ei bwrpas mewn bywyd. Mae'n pendroni am yr hyn a etifeddodd gan ei rieni, a bod "y penderfyniadau mawr [mewn bywyd], yn anorfod ufudd i ryw bwerau unbenaethol difater, didostur" fel "ei Deyrn Amgylchedd". Gorffenna ei ymson gyda'r newyddion bod "Alis yn mynd i gael plentyn. Fi ydi'i dad o. Mae fy magwrfa i, fy holl reddfau i'n dweud mai priodi ydi'r peth anrhydeddus ond..." Ail adroddir yr 'olygfa agoriadol, sydd bellach yn gwneud mwy o synnwyr i'r gynulleidfa.[3]
Golygfa o'i orffennol sy'n dilyn, wrth i Huw gofio am ei dad a'i fam a'i blentyndod. Paratoi i fynd i ffwrdd i weithio fel "saer" mae ei dad, ac mae ei fam yn helpu i bacio. Mae ei dad yn siarsio Huw i fod "yn hogyn da" a'i fam yn ychwanegu "ac [yn] ufudd", sy'n boen yn atgofion Huw. Wedi i'w dad ymadael, mae Huw yn ymddiried wrth y gynulleidfa bod "ofn" arno; "fel petai rhyw fwystfil o'r enw ofn, efo O fawr, wedi dwad i fyw i'n tŷ ni". 'Ofn' bod ar ben ei hun yw'r hyn a ddeëllir, a chawn mwy o 'olygfeydd o'i 'orffennol sy'n awgrymu pellter di-gariad ei fam, a'i phwyslais ar grefydd. Mae un 'olygfa yn adrodd ei hanes yn cael cerydd ganddi am ddarllen Gwylliaid Cochion Mawddwy "ar y Sul", a'r llall pryd y ceisiodd ei fam ei orfodi i ddarllen un o'r Salmau.[3]
"Tŷ Nain" ydi dihangfa a noddfa Huw. Ar ei ffordd yno, [mewn atgof storïol arall] cawn gwrdd â'i gyfaill o'i blentyndod, 'Wil', sy'n cychwyn drwy ei alw'n "fabi mam" am nad ydio'n dod i chwarae pêl. Mae Wil yn cyfaddef nad oes ganddo "nain" am bod hi wedi marw, ac fe arweinia hyn at ymson arall gan yr Huw hŷn am ofni "marwolaeth" ac mai "rhywbeth yn digwydd, nid i nain a mam a nhad a'm hewyrth oedd o, ond i bobl eraill". Wedi cyrraedd Tŷ Nain, mae Huw yn holi eto am farwolaeth, ac yn cael ei siarsio gan ei nain i beidio "poeni am betha' na fedri di neud dim yn eu cylch nhw". Try'r sgwrs i sôn am "onestrwydd" gyda'i nain yn dweud wrtho "'dydi bod yn onest mo'r peth iawn, mo'r peth calla', bob tro". Deallwn mai gan ei nain y cafodd Huw gyfoeth o'i atgofion ac addysg am chwedlau gwerin, a rheolau bywyd, ond gan ei ffrind 'Sami' mae'n dysgu'r "geiriau drwg" neu amheus, neu'r pethau na fyn ei nain eu clywed na'u trafod!. Mae ei nain yn ei rybuddio rhag yngan y geiriau drwg yng nghlyw ei fam, ond fe orffenir yr Act gyda Huw yn mentro i ofyn eu hystyr, ac yn derbyn 'clustan wirioneddol egr' ganddi, sy'n peri i'r ddau grïo. "Mae'r glustan yna ar fy moch i yn union fel petai hi wedi ei rhoi yr eiliad yma. Ar hyd f'oes mae hi wedi parhau yn boen byw. Y boen hon ydi poen Alis. Dyna pryd y sugnais i i'm hanymwybod fod rhai pethau naturiol, yn wir, y pethau mwyaf naturiol mewn bywyd, yn ddrwg ac yn ffiaidd."[3]
Act 2
golyguFe gychwyn Act 2 gyda'r Huw [11 oed] yn cofio am olygfa arall rhwng ei dad a'i fam, tra'n poeni am ei ganlyniadau arholiad yr 11+ yn yr ysgol. Daw lleisiau eraill o'r gorffennol i'w boenydio am fod yn "Lleidr!" neu "Twyllwr!", neu am fod yn "hen gena bach budr!", a phob un yn diweddu gyda'r bygythiad echrydus "beth petai dy fam yn gwybod?". Arweinia'r euogrwydd at olygfa yn y Seiat, gyda Huw a Wil o flaen y gweinidog. Mae'r ddau yn adrodd eu hadnodau ac yn cael eu canmol gan y gweinidog am fod yn llwyddiannus yn arholiad y "scholarship". Mae Huw yn dyheu am gwmni ei gyfaill Wil er mwyn trafod ei boen meddwl presennol dros yr Alis feichiog, a'r ffaith ei bod hi'n gwrthod ei briodi. Cawn olygfa arall yn y presennol y tro hwn, rhwng Wil a Huw yn trafod y mater. Try Huw 'at y gynulleidfa' eto i gyfaddef "...i mi nad oes yna erbyn hyn na Duw na Diawl, dim ond pobl eraill a mi fy hun, 'dydi bywyd yn ddim ond hawl tragwyddol heb ateb iddo."[3]
Mae'r cyfres o olygfeydd sy'n dilyn yn portreadu Huw wrth iddo dyfu a nesu at ei dad, sy'n ymddiried ynddo i feddwl dros ei hun yn fwy aml. Mae ei ymddygiad weithiau'n peri straen rhwng ei dad a'i fam. Cawn olygfa arall wedyn rhwng Huw a'i fam sy'n gwrthod gadael iddo ddilyn yr "hogia er'ill" i fynd i weld y "Royal Welsh yn martsio i Gaernarfon". Mae'n cyhuddo ei fam o "trio ngneud i'n wahanol i'r hogia er'ill" o beidio gadael iddo fynd i'r dre ar ddydd Sadwrn neu i'r "pictiwrs". Ond wedyn yn cyfaddef wrth y gynulleidfa, ei fod yn mynd "bob tro y medrwn i heb i mam wybod". Ond ceisio ei warchod mae ei fam, rhag orfod mynd "i'r Rhyfel".[3]
"Pedair ar ddeg neu bymtheg" ydi'r cyfnod nesaf, cyfnod sy'n dangos Huw yn meddwi ar farddoniaeth a natur, yn "byw uwchben y cymylau, yn rhyw awyr denau o hyfrydwch geiriau". Down yn ôl at Alis eto, a chael hanes Huw yn dod i'w nabod hi yn yr ysgol. Yn "ei llygadu o'i chorun i'w sawdl" ac yn y pendraw yn dechrau caru â hi. Mae'r Act yn dod i ben mewn galar, wrth i Huw gladdu ei nain ac wedyn ei dad, gan geisio rhesymegu efo'i fywyd carwriaethol a naturiol a'r bywyd academaidd a ffeithiol ddyrys.[3]
Act 3
golyguMyfyrwyr ydi Huw a Wil erbyn Act 3, yn rhannu ystafell mewn gwesty. Wedi colli ei dad, mae mam Huw yn gorfod mynd allan i weithio mewn siop leol, sy'n achosi poen meddwl o embaras i'w mab. Mae Huw a'i fam wedi closio, ac mae ei fam yn dod i adnabod Alis ac yn ei derbyn fel darpar ferch-yng-nghyfraith. Pan gaiff Wil ei dderbyn i Gylch dethol llenyddol o fyfyrwyr, mae hyn eto'n peri gofid i Huw, am na chafodd yntau wahoddiad i ymuno hefyd. [3]
Agosau mae perthynas Alis a Huw, ac yn y pendraw mae'r ddau yn caru i'r eithaf, nes y daw [fel y gwyddom] Alis yn feichiog. Ond pan ddaw Huw i wybod [trwy lythyr] am ei beichiogrwydd, mae ei fyd yn troi'n hunllef. "Crio a chrio... chwys oer o gywilydd... o ffieidd-dod atgasedd at wrywdod yr aflendid rhwng fy lwynau i... chwydu a chwydu... yn gynnwrf llidiog at mam... at Alis... at bawb a phopeth a'm gwnaeth yn ysglyfaeth diymadferth i wanc." Ynghanol ei boen o atgasedd, daw rhyw "dawelwch" pryderus i feddwl Huw: "Ac yn sydyn o rywle daeth rhyw dawelwch ... yn wir, tangnefedd... y tangnefedd o wybod na raid ichi neud dim dewis... mai dim ond un ffordd sydd ohoni hi [...] 'R oeddwn i'n hollol yn fy mhwyll... fy mwriad i'n rhesymeg oer. Os... ac os o gadarnhad oedd o i mi... os yw ofn byw yn fwy nag ofn marw, yna marw amdani hi."[3]
Mae Wil yn cynnig dod adref efo Huw i dorri'r newyddion wrth ei fam. Ac er bod ei hymateb cychwynol o siom a phechod yn cynddeiriogi Huw, rhydd y ffaith ei fod wedi cysidro diweddu ei fywyd fraw i'r ddau ohonynt. Mae Huw yn penderfynu gadael y Coleg. Geiriau ei fam sy'n dod â ni yn ôl at gychwyn y ddrama: "Trefnwch eich dau pryd i briodi... a hynny mor fuan ag sydd modd... ac mor ddistaw ag sydd modd".[3]
Arogl "nionod" sy'n cloi'r ddrama, a'r ffaith bod ei fam wedi ildio i'w hatgasedd ohonynt, sy'n atgoffa Huw o'r atgofion melys yn "Tŷ Nain". "Erbyn hyn 'rydw i'n deffro'n y bore yn ddigon hapus. Mae bywyd o'm blaen i. Fi ydw i o hyd, 'does dim osgoi ar hynny. Ond mi fedra'i, fel fi fy hun, edrych ym myw llygaid y dyfodol heb gael fy nallu. 'Rydw i am gael byw... rydw i, ar waethaf popeth, am gael byw . .. byw . . . byw"[3]
Cefndir
golygu"Un o brif themâu John Gwilym Jones yw'r modd y mae dyn 'yn gaeth i'w gromosomau' ar drugaredd ei etifeddeg a'i amgylchedd" yn ôl yr Athro Gareth Evans-Jones.[2] "Yn y cyswllt hwn, ystyrir John Gwilym Jones yng nghyd-destun mudiad Naturiolaeth, gan i Ddarwiniaeth effeithio ar ddatblygiad y mudiad ac ysgogir y duedd i archwilio seicoleg mewn testunau llenyddol a chelfyddydol," ychwanega. Yn y ffram hwn o feddwl, felly, gellir dweud fod yr awdur yn llenor Naturiolaidd a bod elfennau abswrdaidd a dirfodol yn treiddio trwy'i waith.[2]
Awgryma Evans-Jones bod Huw wedi cael ei effeithio'n fawr gan fagwraeth ei fam gadarn a oedd yn potelu ei theimladau, a thad a oedd yn absennol yn aml, gan ei lenwi a phob math o bryderon ac ofnau. Nid oedd gobaith lleddfu ei bryderon pan oedd yn iau oherwydd culni Cristnogol ei fam.[2]
Tra'n annerch Cymdeithas y Ddrama Gymraeg Prifysgol Bangor yn 2018, datganodd Alun Ffred Jones y dylid ail-lwyfannu dramâu John Gwilym Jones yn fwy aml, ac y dylai cynhyrchwyr, actorion a chynulleidfaoedd heddiw gael y cyfle i ail-ddarganfod gweithiau fel Ac Eto Nid Myfi, fel ag y mae byd theatr yn Lloegr yn ail-lwyfannu clasuron Saesneg. Er fod y ddrama hon wedi dyddio, "mae theatr Lloegr yn ail-ddarganfod gwerth dramâu o bob cyfnod yn rheolaidd", dywedodd.[4]
Cymeriadau
golygu- Huw
- Alis
- Wil
- Nain
- Mam
- Tad
- Gweinidog
- Lleisiau
Cynyrchiadau nodedig
golygu1970au
golyguFel y nodwyd, llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Gymdeithas y Ddrama Gymraeg Prifysgol Bangor ym Mawrth 1976. Cyfansoddwyd y ddrama ar eu cyfer gan John Gwilym Jones, fu hefyd yn cyfarwyddo.
- Huw - Dewi Jones / Glyn Jones
- Alis - Menai Lloyd Jones / Sioned Mair Evans
- Wil - John Roberts
- Nain - Mair Jones
- Mam - Llinos Gruffydd
- Tad - Bryn Rowlands
- Gweinidog - Robert Trefor Jones
- Lleisiau - Eleri Richards, Carys Hughes, John Ogwen, Huw Gruffydd a Trefor Jones-Morris
- Cantores - Leah Lloyd Jones [Owen]
Addaswyd y ddrama ar gyfer BBC Radio Cymru ym 1977, a'i darlledu i ddathlu Gŵyl Ddewi ar 28 Chwefror 1977[5]. Y cyfarwyddwr oedd Dafydd Huw Williams ac roedd y cast yn cynnwys:
- Huw - John Ogwen
- Alis -
- Wil - Gareth Lewis
- Nain - Elen Roger Jones
- Mam - Beryl Williams
- Tad - J.O Roberts
- Huw a Wil fel plant - Dafydd Emyr ac Arthur Emyr
Disgrifwyd y ddrama radio fel "dwy awr ac ugain munud lawn a chyfoethog o wrando" gan Eleri Wyn Jones, yn Barn [Ebrill 1977].[1] Nododd hefyd yn ei beirniadaeth roedd y cyflwyniad radio hyd yn oed yn well na'r perfformiad llwyfan, ac yn gweddu i'r dim i'r cyfrwng. Awgymodd "mai dramodydd radio yw John Gwilym Jones, yn bennaf.[1]
1980au
golyguAddaswyd y ddrama ar gyfer y teledu ym 1987 gan Ffilmiau Bryngwyn, o dan yr un enw Ac Eto Nid Myfi. Siôn Humphreys oedd yn cyfarwyddo. Yn y cast roedd:[6]
- Huw - Llion Williams
- Alis
- Wil
- Nain
- Mam
- Tad
2000au
golyguLlwyfannwyd detholiad o'r ddrama fel rhan o gyflwyniad Theatr Genedlaethol Cymru o dan y teitl Ac Eto Nid John Gwil fel rhan o "ddathliad o ganmlwyddiant geni John Gwilym Jones" yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 2004.[7] Cyfarwyddwr Cefin Roberts.
2010au
golyguAil lwyfannwyd y ddrama gan Gymdeithas y Ddrama Gymraeg, Prifysgol Bangor yn 2019. Y Cyfarwyddwr oedd Caryl Bryn; roedd y cast yn cynnwys: Carwyn Jones, Elen Wyn, Lowri Cêt, Alister Mahoney, Siân Elin a Nerys Williams. Lleisiau: Caryl Fôn Owen [8]
Dolen allanol
golygu- Mae erthygl Yr Athro Gareth Evans-Jones ar gael yma ar Gwerddon.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Jones, Eleri Wyn (Ebrill 1977). "Nodiadau Radio". Barn.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 "Erthygl Gareth Jones-Evans" (PDF).
- ↑ 3.00 3.01 3.02 3.03 3.04 3.05 3.06 3.07 3.08 3.09 3.10 Jones, John Gwilym (1976). Ac eto nid Myfi. Gwasg Gee.
- ↑ "Dramâu John Gwil yn haeddu cael eu llwyfannu'n broffesiynol". Golwg360. 2018-12-03. Cyrchwyd 2024-10-03.
- ↑ "Ac eto nid Myfi gan John Gwilym Jones - National Library of Wales Archives and Manuscripts". archives.library.wales. Cyrchwyd 2024-10-03.
- ↑ "Ac Eto Nid Myfi (1987)". www.porth.ac.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-10-03.
- ↑ "Theatre in Wales".
- ↑ "Ac Eto Nid Myfi PDF | PDF". Scribd (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-10-03.