Minato Namikaze

(Ailgyfeiriad o Pedwerydd Hokage)

Yn y gyfres manga ac anime Naruto, Minato Namikaze oedd y "Pedwerydd Hokage", a hefyd tad i Naruto. Mae e hefyd yn cael ei adnabod fel y "Yellow Flash" (四代目火影 - Japaneg) oherwydd ei gyflymder; roedd Minato mor chwym, dywedai rhai ei fod yn gallu telegludo o un lle i'r llall. Roedd gan Minato y fedr i ddrechu byddinoedd llawn.

Minato Namikaze, y Pedwerydd Hokage

Cefndir

golygu

Rhoddodd Minato ei fywyd er mwyn atal y Kyuubi rhag dinistrio Konoha yn bellach a lladd mwy o bentrefwyr. Galodd ar Gamabunta er mwyn telegludo'r Kyuubi i ardal arall, fel y gall Minato ei selio heb ymyrriaeth Madara Uchiha. Ar ôl i Gamabunta telegludo'r Kyuubi ceisiodd gwraig Minato, Kushina Uzumaki, selio'r Kyuubi tu fewn iddi hi eto, gan hi oedd y gynhwysydd blaenorol. Gan ei fod hi wedi cwympo'n feichiog gyda Naruto, fe wnaeth y sêl gwanhau ac yna llwyddodd y Kyuubi i dorri'n rhydd. Erbyn hynny, roedd Kushina ar fin maru gan yr effaith o'r Kyuubi yn torri'n rhydd. Gwirfyddolodd selio'r Kyuubi tu fewn i'w hun fel ei fydd yn marw gyda hi, ond yn lle, seliodd Minato hanner y Kyuubi tu fewn i'w hunan a hanner mewn i Naruto. Credodd taw hyn oedd yr opsiwn gorau, gan efallai bydd angen pwêr y Kyuubi ar Naruto rhyw ddydd er mwyn trechu Madara. Crëd taw plentyn y broffwyd oedd Naruto, ac yna galwodd ar Gerotora er mwyn fynd a Naruto at Jirayia.

Edrychiad

golygu

Mae'r nodweddion rhwng Naruto a Minato yn syml iawn; roedd gan Minato gwallt melyn a llygaid glas, yn union fel ei fab. Roedd yn eithaf tal, yn gwisgo gwisg arferol Ninja sef trowsus glas a siaced gwyrdd. Ar ôl dod yn Hokage, gwisgodd côt hir, gwyn gyda fflamau coch ar y gwaelod.

Personoliaeth

golygu

Yn wahanol i Naruto, roedd Minato yn eithaf osteg. Roedd yn barchus tuag at y bobl o'i gwmpas, ac wedi cael ei ystyried fel person neis iawn. Hokage call a deallus oedd Minato.