Pegasus
(Ailgyfeiriad o Pegasos)
Ceffyl adeiniog mewn mytholeg Roeg oedd Pegasos neu Pegasus (Hen Roeg: Πήγασος). Cenhedlwyd ef o ganlyniad i garwriaeth rhwng y Gorgon Medusa a Poseidon, duw'r môr. Daeth i'r byd o waed Medusa pan laddwyd hi gan Perseus.
Enghraifft o'r canlynol | winged horse, mythological horse |
---|---|
Lliw/iau | gwyn |
Rhan o | mytholeg Roeg |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'n gymeriad yn yr hanes am Bellerophon, sy'n dal Pegasos a'i ddofi, ac yna yn ei ddefnyddio i ymladd yn erbyn y Chimaira a'r Amasoniaid. Ceisiodd Bellerophon hedfan i Olympos ar gefn Pegasos, ond gyrrodd y duwiau bryf i bigo Pegasos, a daflodd Bellerophon oddi ar ei gefn. Cyrhaeddodd Pegasos i Olympos, a daeth yn gariwr taranfolltau Zeus. Mae Pegasos wedi rhoi ei enw i gytser Pegasos.