Perseus (mytholeg)

Duw neu arwr Groeg oedd Perseus. Roedd yn fab i Zeus a Danae, ferch Acrisius.

Perseus gyda Pegasus ar ôl achub Andromeda (Pierre Mignard, 17g)
Perseus a Danae yn cael eu darganfod gan y bugail ar ôl glanio ar Seriphos

Cenhedlodd Zeus Berseus trwy ddisgyn fel cawod o aur yn arffed Danae. Ar ôl ei geni cafodd ei rhoi mewn casgen gyda'i fam a'i ollwng ar drugaredd y môr (motiff llên gwerin a geir mewn sawl diwylliant - y Taliesin chwedlonol er enghraifft) am fod oracl yn proffwydo y byddai Acrisius yn cael ei ladd ganddo.

Glaniodd y gasgen ar ynys Seriphos lle magwyd Perseus.

Ceir sawl chwedl enwog a gysylltir â Pherseus. Yr enwocaf efallai yw'r hanes am ei daith i ladd Medusa, un o'r Gorgoniaid, a dwyn ei phen ofnadwy. Llwyddodd i wenud hynny gyda chymorth y dduwies Athena a roes ddrych iddo fel na fyddai edrychiad y gorgon yn ei droi'n garreg. Ar ôl torri pen Medusa mae march rhyfeddol yn dod i'r golwg. Dyma Pegasus ac mae Perseus yn hedeg i ffwrdd ar y march asgellog.

Yn ail ran y chwedl mae'n ennill llaw Andromeda, ferch Cepheus gan y dduwies Cassiopeia. Roedd Cassiopeia wedi bostio bod Anfromeda'n degach na'r Nereidau, morynion Poseidon, duw'r môr. I ddial y sarhad anfonodd Poseidon dilyw ac anghenfil o'r môr i wlad Cassiopeia a Cepheus. Proffwydolodd oracl Jupiter Ammon, yn yr Aifft fod modd cael gwared â'r gorthrwm hynny trwy offrymu Andromeda i'r anghenfil. Rhwymodd Cepheus ei ferch i graig ar lan y môr. Yn ffodus daw Perseus i'r adwy. Mae'n lladd yr anghenfil trwy ddangos pen ofnadwy Medusa iddo ac yn achub Andromeda.

Ar ôl ei phriodi mae Perseus yn mynd ag Andromeda i Argos ac yn sefydlu llinach brenhinol y Perseidiaid yn y deyrnas enwog honno.

Enwir y cytser Perseus ar ei ôl.

Roedd y chwedlau am Perseus yn adnabyddus ledled yr Henfyd a cheir cyfeiriadau niferus ato yn llenyddiaeth a chelf y cyfnod Clasurol, er enghraifft gan Ofydd yn ei Metamorffoses ac Apollonius Rhodius yn ei Argonautica.

Ffynonellau

golygu
  • J. Lempriere, A Classical Dictionary (Llundain, d.d.)
  • Oscar Seyffert, Dictionary of classical Antiquities (Llundain, 1902)