Pen Dinas, Aberystwyth
Bryn i'r de o Aberystwyth, Ceredigion, yw Pen Dinas. Adwaenir y bryn yn syth gan y tŵr uchel sy'n ei goroni. Ar yr ochr orllewinol i Ben Dinas, rhed Afon Ystwyth i'r môr, tra bod harbwr Aberystwyth ac Afon Rheidol yn gorwedd i'r gogledd. Ceir golygfeydd oddi yma o ddyffrynoedd y ddwy afon, tref Aberystwyth, y Llyfrgell Genedlaethol a Bae Ceredigion. Saif y copa 114 metr uwchlaw lefel y môr.
Math | bryn, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Penparcau |
Sir | Aberystwyth |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 128 metr |
Cyfesurynnau | 52.40158°N 4.08239°W |
Cod OS | SN5843080218 |
Amlygrwydd | 94 metr |
Hanes
golyguAdeiladwyd caer Oes yr Haearn ar Ben Dinas, sydd o bosibl yn esbonio'r enw hefyd.[1] Yn ystod cloddio archaeolegol yn ystod y 1930au, darganfuwyd olion crochenwaith yn dyddio o tua 100 CC ar y bryn. Credir i'r gaer gyntaf gael ei hadeiladu gan y Celtiaid ar ochr ogleddol y bryn, ac na adeiladwyd ar gopa deheuol y bryn tan ddegawdau'n ddiweddarach. Er fod nifer o gaerau Oes yr Haearn eraill yn y cyffiniau, mae arddull adeiladu'r gaer yn fwy tebyg i gaerau a welir i'r dwyrain, yn agosach at y ffin bresennol a Lloegr, sy'n awgrymu o bosibl i'r gaer gael ei hadeiladu gan fudwyr o'r dwyrain tua 300 CC (Stanford: 1972). Mae'n debyg i ddyfodiad y Rhufeiniaid ddod ag oes y gaer fel amddiffynfa i ben.
Cofgolofn o'r 19g yw'r tŵr a welir heddiw. Mae'r twr, sydd ar siap magnel yn wynebu i fyny, yn deyrnged i Dug Wellington a Brwydr Waterloo. Gobeithiwyd coroni'r golofn gyda cherflun o Wellington ar gefn ei geffyl, ond aeth y noddwyr i drafferthion ariannol cyn cwblhau'r gwaith.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ S. C. Stanford, "Welsh border hill-forts", yn The Iron Age in the Irish Sea Province (C.B.A. Research Report 9, 1972), tud. 35 [1] Archifwyd 2009-06-02 yn y Peiriant Wayback
Dolenni allanol
golygu- "Bryngaer Pen Dinas"; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru