Agor y brif ddewislen

Meilyr Brydydd yw'r cynharaf o Feirdd y Tywysogion (fl. 10811137). Mae'n bosibl ei fod yn frodor o Drefeilyr, Môn. Fe'i cofir am ei ganu i Gruffudd ap Cynan.[1]

BywgraffiadGolygu

Roedd Meilyr yn dad i'r bardd Gwalchmai ap Meilyr ac yn daid i'r beirdd Meilyr ap Gwalchmai, Einion ap Gwalchmai ac, yn ôl pob tebyg, i Elidir Sais. Yn ôl ach teuluol a geir yn y testun Hen Lwythau Gwynedd a'r Mars dan y teitl Llwyth Aelan enw gwraig Meilyr Brydydd oedd Tandreg ferch Rhys ap Seisyllt. Yn ôl yr un ddogfen tad Meilyr oedd Mabon ap Iarddur ap Mor ap Tegerin ap Aeddan, ac roedd yr Aeddan hwnnw yn ei dro yn un o ddisgynyddion Cunedda Wledig, sefydlwr teulu brenhinol Gwynedd. Roedd Meilyr yn perthyn i deulu barddol felly; teulu breintiedig ac iddo ach hir ac anrhydeddus.[1]

Ceir llecyn o'r enw Trefeilyr ym mhlwyf Trefdraeth ym Môn, ac er na fedrwn fod yn gwbl sicr mai Meilyr Brydydd oedd deiliad y tir, mae'r ffaith fod yna hefyd Drewalchmai (pentref Gwalchmai heddiw) a bod cofnodion o'r 14g yn nodi daliadau tir eraill yn enwau meibion ei fab Gwalchmai ap Meilyr yn awgrymu'n gryf fod Meilyr yn berchen arno ac efallai wedi ei eni yno.[1]

CerddiGolygu

Pencerdd llys Gruffudd ap Cynan (c.1055-1137)oedd Meilyr Brydydd. Mae un o'r tair cerdd a briodolir i'r bardd yn farwnad i'r tywysog hwnnw. Gellir bod yn bur sicr mai ar achlysur claddu'r tywysog neu'n fuan wedyn y cyfansoddwyd ei farwnad. Ynddi mae Meilyr yn moli dewrder a haelioni'r brenin ac yn disgrifio ei gyrchoedd a'r brwydrau yr ymladdodd. Cawn hefyd ymdeimlad o'r berthynas agos a fu rhwng y bardd a'i noddwr mewn llinellau fel a ganlyn, sy'n dangos y lle anrhydeddus a roddid i'r bardd yn llys Gruffudd, yn Aberffraw. Yfai yng nghwmni'r brenin o gorn yfed euraidd, yn eistedd ar gadair foethus yn ei ymyl:

Yfais gan dëyrn o gyrn eurawg,
Arfodd faedd feiddiad angad weiniawg,
Yn llys Aberffraw, er ffaw ffodiawg,
Bûm o du gwledig yn lleithigawg.[2]

Mae'r ail gerdd yn adnabyddus iawn dan yr enw Marwysgafn Meilyr Brydydd, y farwysgafn gynharaf a gadwyd i ni. Math o gerdd gyffes ydyw. Mae'r bardd yn cyffesu ei bechodau ac yn gofyn maddeuant a lle ym Mharadwys. Ar ddiwedd y gerdd mae'n gofyn i Grist ei gadw rhag tân uffern ac i'r Duw a'i creodd ei adael i orffwys ymhlith beddau'r saint ar Ynys Enlli:

Crist croesddarogan a'm gŵyr, a'm gwarchan,
Rhag uffern affan, wahan westi:
Creawdr a'm crewys a'm cynnwys i
Ymhlith plwyf gwirin gwerin Enlli.[2]

Priodolir testun arall i Feilyr, sef cerdd ddarogan sy'n ymwneud â brwydr Mynydd Carn (1081), ond nid oes sicrwydd mai Meilyr a'i canodd.[1]

LlyfryddiaethGolygu

TestunGolygu

  • J.E. Caerwyn Williams a Peredur I. Lynch (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion, Cyfres Beirdd y Tywysogion I (Caerdydd, 1994). ISBN 0708311873

ErthyglGolygu

  • Bedwyr Lewis Jones (gol.), Gwŷr Môn (Caernarfon, 1979). Pennod gan Tomos Roberts ar deulu Meilyr Brydydd.

CyfeiriadauGolygu