Penrhyn Yucatán
(Ailgyfeiriad o Penrhyn Yucatan)
Penrhyn rhwng Gwlff Mecsico, Culfor Yucatan a Môr y Caribî yw penrhyn Yucatán (Maya Yucateg: Lu'umil kuuts yéetel kéeh neu Uuyut'aan). Mae'r rhan fwyaf ohono yn rhan o Mecsico, ac yn cael ei rannu yn dair talaith: Campeche, Yucatán a Quintana Roo. Ambell dro ystyrir fod rhan fwyaf gogleddol Belîs a Gwatemala hefyd yn rhan o'r penrhyn.
Roedd poblogaeth y penrhyn yn 3,828,478 yn (2005). Mae tua 35% o'r rhain yn perthyn i grŵp ethnig y Maya. Y dinasoedd mwyaf yw Mérida, Cancún, Campeche, Ciudad del Carmen, Chetumal a Playa del Carmen.
Mae'r ardal yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid. Ymhlith ei hatyniadau mae nifer o hen ddinasoedd y Maya, yn cynnwys Calakmul, Chichén Itzá, Uxmal a Mayapán, tra mae'r traethau hefyd yn atyniad.