Penri Jones

Athro ac awdur o Gymro

Athro ac awdur o Gymro oedd Penri Jones (27 Mawrth 194319 Rhagfyr 2021).[1]

Penri Jones
GanwydWilliam Penri Jones Edit this on Wikidata
27 Mawrth 1943 Edit this on Wikidata
Bu farw19 Rhagfyr 2021 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethllenor, athro Edit this on Wikidata

Brodor o Lanbedrog yn Llŷn oedd Jones. Bu'n athro yn Ysgol Eifionydd cyn symud i Goleg Meirion Dwyfor. Roedd yn awdur ac ef hefyd oedd cyd-sylfaenydd y cylchgrawn Cymraeg dychanol Lol yn 1965.

Roedd yn ffermio ac wedi cynrychioli ardal Lanbedrog ar Gyngor Gwynedd fel Cynghorydd dros Blaid Cymru o 1996 nes 2012.

Ynn 1988 addasodd ei nofel Jabas i fod yn gyfres deledu lwyddiannus ar S4C, gyda'r stori yn olrhain helyntion Jabas a’i gyfeillion dros un haf ym Mhen Llŷn.

Bu farw ar ddydd Sul, 19 Rhagfyr 2021 wedi cyfnod o salwch byr. Roedd yn gadael ei wraig Mair a'u plant Esyllt ac Iolo.[2]

Llyfryddiaeth

golygu
   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Cyfeiriadau

golygu