Perl mewn Adfyd
Llyfr gan Huw Lewys (1562–1634) yw Perl mewn Adfyd a gyhoeddwyd yn Llundain yn 1595. Cyfieithiad ydyw o waith Saesneg ac mae olion dysg Lladin yn amlwg ynddo.
Disgrifiad
golyguCyfieithiad i'r Gymraeg ydyw o lyfr y Protestant Seisnig Miles Coverdale, sef A Spyrytuall and most Precious Pearle. Roedd hwnnw yn ei dro yn gyfieithiad o'r traethawd Almaeneg Kleinot gan Otto Werdmüller (bu farw 1551).[1]
Ceir cywydd "I'r Iesu" gan Huw ar ddiwedd y Perl mewn Adfyd, sy'n dangos ei fod yn cyfansoddi cerddi caeth yn ogystal ag ysgrifennu rhyddiaith.
Llyfryddiaeth
golygu- Perl mewn Adfyd (Llundain, 1595)
- Perl mewn Adfyd, adargraffiad gyda rhagymadrodd gan W. J. Gruffydd (Caerdydd, 1929)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ W. J. Gruffydd, Llenyddiaeth Cymru. Rhyddiaith o 1540 hyd 1660 (Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1926).