Myles Coverdale

(Ailgyfeiriad o Miles Coverdale)

Clerigwr Seisnig yng nghyfnod y Diwygiad Protestannaidd oedd Myles Coverdale (sillefir hefyd Miles; 148820 Ionawr 1569) sydd yn nodedig fel cyfieithydd y Beibl cyflawn cyntaf i'w argraffu yn yr iaith Saesneg, a hynny ym 1535. Trosiad rhydd yw Beibl Coverdale, am yr oedd yn anhyddysg yn yr ieithoedd Lladin a Groeg. Cynorthwyodd William Tyndale ar ei Feibl ef, a oedd wedi ei gyfieithu'n uniongyrchol o'r testunau Hebraeg a Groeg, a chyfunwyd gwaith y ddau ar ffurf y Beibl Mawr (1539), Beibl safonol Eglwys Loegr. Gwasanaethodd Coverdale yn Esgob Caerwysg o 1551 i 1553.

Myles Coverdale
Engrafiad o Myles Coverdale ar sail portread o 1533.
Ganwyd1488 Edit this on Wikidata
Swydd Efrog Edit this on Wikidata
Bu farw20 Ionawr 1569, 20 Mai 1569 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethoffeiriad, cyfieithydd y Beibl, cyfieithydd, esgob Edit this on Wikidata
SwyddEsgob Caerwysg Edit this on Wikidata
Adnabyddus amCoverdale Bible Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Swydd Efrog, ac astudiodd ym Mhrifysgol Caergrawnt. Ymunodd ag Urdd Sant Awstin, ac ordeiniwyd ef yn offeiriad yn Norwich ym 1514. Aeth i frodordy'r Awstiniaid yng Nghaergrawnt, a dan ddylanwad ei brior, Robert Barnes, daeth yn gyfarwydd â syniadau Martin Luther. Wedi hynny, fe wresog gofleidiodd y ffydd ddiwygiedig, a threuliai lawer iawn o'i amser yn astudio'r Beibl. Trodd ei gefn ar sawl agwedd o ddysgeidiaeth yr Eglwys Gatholig, gan gynnwys trawsylweddiad a dwysbarch tuag at ddelwau sanctaidd, a gadawodd yr Awstiniaid. Ym 1528, fel offeiriad plwyf yn Essex, dechreuodd bregethu yn erbyn eilunod a'r offeren, a byddai'n ffoi i'r cyfandir rhag erledigaeth. Yr hon oedd ei alltudiaeth gyntaf, o 1528 i 1535. Yn Hamburg ym 1529, fe gynorthwyodd William Tyndale i gyfieithu'r Pumllyfr i'r Saesneg, ac yna aeth i Antwerp i weithio ar drosiad Beiblaidd ei hun.

Fel yr aeth y Diwygiad Seisnig yn ei flaen, dychwelodd Coverdale i Loegr i ymuno ag achos y diwygwyr. Cyfieithodd sawl pamffled gan awduron o'r cyfandir i'r Saesneg, a thrwy ganiatâd y Brenin Harri VIII cyhoeddodd ei gyfieithiad Beiblaidd ei hun—Beibl Coverdale, fel y'i gelwir—ym 1535. Ei gyfieithiad ef oedd y Beibl Saesneg cyflawn cyntaf a argraffwyd; cyn hynny, cynhyrchwyd trosiadau o'r Hen Destament a'r Testament Newydd ar wahân, a llawysgrifau yn Saesneg Canol oedd Beibl John Wycliffe. Ymhen tair blynedd ar ôl cyhoeddi Beibl Coverdale, pan oedd ym Mharis yn cynorthwyo i gyhoeddi argraffiad arall, gwysiwyd ef i ymddangos o flaen y Chwilys, a chondemniwyd y copïau a argraffwyd i gael eu llosgi. Yna dychwelodd i Loegr, a than gomisiwn Thomas Cromwell fe olygai'r fersiwn awdurdodedig gyntaf o'r Beibl Saesneg, gan dynnu'n helaeth ar Feibl Tyndale—y Testament Newydd, y Pumllyfr, a llyfrau hanesyddol yr Hen Destament—gyda chyfieithiadau ychwanegol gan Coverdale o lyfrau gweddill y Hen Destament a'r Apocryffa, wedi eu trosi o'r Fwlgat a'r Beibl Almaeneg yn hytrach na'r ieithoedd gwreiddiol. Cyhoeddwyd y Beibl Mawr ym 1539, gydag awdurdod y Brenin i'w ddarllen mewn gwasanaethau Eglwys Loegr.

Newidiodd polisïau crefyddol Harri VIII ym 1540, ac yn sgil dienyddiad ei noddwr Cromwell, a merthyrdod ei hen brior Robert Barnes, ffoes Coverdale i'r cyfandir eto, gan ymsefydlu yn Strasbwrg. Dychwelodd i Loegr ym 1548, un flwyddyn wedi marwolaeth Harri, pan oedd llywodraeth a llys Protestannaidd Edward VI yn ffafriol iddo ef. Gwnaed Coverdale yn Esgob Caerwysg ym 1551, a fe'i penodwyd hefyd yn gaplan brenhinol yng Nghastell Windsor ac yn elusennwr i'r frenhines weddw Catherine Parr.

Esgynnodd y Catholig pybyr Mair i'r orsedd ym 1553, ac amddifadwyd Coverdale o'i esgobaeth. Carcharwyd ef yn ei dŷ ac mae'n debyg byddai wedi cael ei losgi os nad am ymyrraeth gan ei frawd-yng-nghyfraith, a oedd yn gaplan i Frenin Denmarc. Caniatawyd i Coverdale deithio i Ddenmarc, ac ar ôl llawer o grwydradau drwy'r Almaen, cyrhaeddodd i Genefa ym 1558, gan ymgysegru i'w hoff waith, a chynorthwyo i gyfieithu Beibl Genefa. Ar ôl marwolaeth y Frenhines Mair, dychwelodd Coverdale i Loegr, a bu am ychydig amser yn dal rectoriaeth Eglwys St Magnus ger Pont Llundain.[1] Ym 1563, gwrthododd esgobaeth Llandaf. Bu farw Myles Coverdale yn Llundain, oddeutu 80 oed.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Miles Coverdale. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 7 Mawrth 2022.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.