Pete Fowler
Darlunydd o Gymru yn enedigol o Gaerdydd yw Pete Fowler (Ganed 1969). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei waith dylunio ar gyfer y Super Furry Animals. Mae'n ddarlunydd llawrydd sy'n creu bwystfiloedd, wedi ei ysbrydoli gan Arlunio Siapaneaidd. Mae wedi gweithio ar sawl cywaith yn y DU ac yn Siapan, megis hysbysebion teledu (Kia Picanto), ac arddangosfeydd arlunio dros y byd. Mae'n gweithio drwy amryw o gyfryngau, gan gynnwys darlunio, paentio, animeiddio a cherfluniaeth.
Pete Fowler | |
---|---|
Darlunwaith Pete Fowler ar glawr CD Super Furry Animals, Rings Around The World | |
Ganwyd | 1969 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | darlunydd |
Mae arlunwaith Pete Fowler mewn arddull cartŵn ôl-fodern (tebyg i arlunwyr megis Takashi Murakami a David Lebatard Archifwyd 2007-09-29 yn y Peiriant Wayback). Canolir ei arlunwaith o gwmpas adroddiant sy'n cynnwys set o gymeriadau sy'n ail-ymddangos drwy'r gwaith. Mae'r bwystfiloedd a greir i gyd yn byw ar Monsterism Island (Cymraeg: Ynys Bwystfilaidd). Mae Fowler yn dychmygu storïau cefndirol eang ar gyfer ei gymeriadau, mae gan pob un ei nodweddion unigryw a lefelau o "monsterism". Mae Fowler yn enwog am ei degannau dylunwyr o'i gymeriadau, mae'n creu rhain gyda'i gwmni ei hun.
Rhyddhawyd CD, The Sounds of Monsterism Island yn 2005 gan Heavenly Records. Yn ôl datganiad i'r wasg:
- (Saesneg) "The record is a compilation album that works as a soundtrack to the world of Monsterism...The album features psychedelic music from the '60s through to today, much of it unearthed and put on CD for the first time."
Yn 2006, creodd Pete Fowler gyfres o gomigs am yr Monsterism Island sydd wedi cael eu cyhoeddi yng nghylchrawn Vice. Mae gwefan Fowler yn cynnwys cyfresi o animeiddio Flash byr o'i gymeriadau, ac mae Fowler wedi datgan ei fod yn gweithio ar gyfres o ffilmiau byrion.
Bydd ail crynoddisg Monsterism Island yn cael ei ryddhau ar label recordiau Poptones yn 2007.
Dolenni allanol
golygu- [Gwefan Swyddogol]
- Safle Myspace