Peter Benoit

botanegydd o Abermaw, Gwynedd

Botanegydd o Abermaw, Meirionnydd, oedd Peter Michael Benoit (8 Mawrth 19312021). Enillodd barch mawr gan ei gyfoeswyr ar raddfa eang er iddo gyfyngu ei yrfa i raddau mawr i'w sir mabwysedig.

Peter Benoit
Ganwyd8 Mawrth 1931 Edit this on Wikidata
Bu farwIonawr 2021 Edit this on Wikidata
Man preswylAbermaw Edit this on Wikidata
Galwedigaethbotanegydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Ei fywyd

golygu

Fe'i ganwyd ar 8 Mawrth 1931.

I [Peter Benoit] was born on the 8th March and family folklore has it that I arrived during a freeze up when the parents were coping with a burst water pipe. Our house was probably no warmer than Salters [1]

Dyn swil, rawel a phreifat ond o statws rhyngwladol fel botanegydd. Bu fyw bywyd syml, tlawd wrth safonau heddiw, gyda'i fam a fu farw ar y 14 Mawrth 2000. Ni soniai byth am ei dad a oedd mae'n debyg o dras Ffrengig gyda chysylltiadau yn Le Touquet. Cafodd ei fagu yn gyntaf yn nghanolbarth Lloegr ond o ddeg oed ymlaen am weddill ei oes bu'n byw yn Y Bermo, a sir Feirionnydd oedd ei ardd, ei gynefin a'i gariad.
Daeth i’r Bermo yn naw oed yn 1940; bu’n byw mewn pum tŷ yno cyn setlo gyda’i fam am weddill ei oes o'r bron ym mwthyn Pencarreg uwchben y dref (nes gorfod mynd i’r cartref henoed yno yn lled diweddar). Llwybr troed a arweiniai at Pencarreg (dywedodd mai ei enw gwreiddiol oedd Craig yr Helbul cyn i'w ragflaenydd yn y ty, y teulu Hewins ei ailenwi am nad oedd yn hoffi ystyr Carreg yr Helbul). Disgynnodd y llwybr lawr y llechwedd "in the storm of 11 March" gan achosi difrod sylweddol.

Roedd yn un o gylch llac o fotanegwyr Cymreig canol yr 20g., megis William Condry, Arthur Chater, Mary Richards, Maldwyn Thomas, Goronwy Wyn a Dafydd Dafis (Rhandirmwyn). Pan ymgartrefodd y botanegydd hŷn Mary Richards (1885-1977) yng Nghaerynwch, Dolgellau yn y 1940au ar ôl byw yn ne Affrica, trwy ohebiaeth yn unig oedd ei chysylltiad â Peter. Pan gyfarfuon nhw o’r diwedd syfrdanwyd Richards, a ddychmygai tan hynny mai dyn canol oed hwyr oedd Peter, gan ddyn ifanc yn meddu ar wybodaeth gwyrthiol (‘with such prodigious knowledge’ oedd ei disgrifiad).

Roedd yn gymeriad swil, hapus ei fyd, hen ffasiwn fel jwg, chwilfrydig, diymhongar a deallus. Aeth i’r ysgol yn y Bermo heb ddisgleirdeb amlwg, ond cafodd wahoddiad i weithio yn Kew ar sail ei allu cynhenid yn unig (a fe wrthododd!)[2]. Ni chafodd unrhyw hyfforddiant ffurfiol. Treuliodd ei oes yn astudio planhigion yn ei ffordd ei hun. Ni fu iddo grwydro bron ddim erioed o’i ffillir sgwar ond yn ei ddydd fe gydnebid ei athrylith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae ei gofnodion botanegol a’i gasgliad o fwsoglau yn rhyfeddod i’w gweld, popeth wedi ei ffeilio mewn bocsus ‘sgidiau neu wedi eu lapio mewn hen bapur newydd! Ychydig iawn a gyhoeddodd y tu allan i’r cylchgrawn dysgedig Watsonia (heblaw am ei “Contribution to a Flora of Merioneth”[1] fu’n difaru ei gyhoeddi o gwbl!). Cyfranodd yn fynych i Nature in Wales. Dyma oleuni a ddisgleiriodd ennyd cyn diffodd drachefn dan lestr ein difaterwch[3].

 
Peter Benoit yn cymharu dau fath o grib y pannwr (ar y dde, cwltifar y pannwr)

Ei Yrfa

golygu
 
Y botanegydd Peter Benoit wrth ei waith yn Nhrawsfynydd, Meirionnydd, 1997

Cyfranodd yn rheolaidd i'r cylchgrawn botanegol peer-reviewed Watsonia [2] ar ar ei newydd wedd y New Journsl of Botany. Dyma un o'i baburau academaidd yn Watsonia[4]

Dyma un o’I olynwyr fel cofnodwr planhigion Meirionnydd, Sarah Stille: My thanks go first and most importantly to Peter Benoit who was Vice-county Recorder for Merioneth for the greater part of the twentieth century. As a young man he co-wrote A Contribution to a Flora of Merioneth, and brought it to publication in 1963, while his co-author, Mary Richards, was mostly working in Africa. He continued to dedicate his life to the Vice- county and its flowering plants and bryophytes, until his retirement in 2010. He was generous with his teaching and his time and I have happy memories of many long days in the field with him. Until now, “The Contribution” has been the only point of reference for botanists in Merioneth ....

Fe gydnebid ei ddawn yn fuan gyda Gerddi Kew yn Llundain yn cynnig swydd academaidd iddo ond fe'i gwrthododd, mor gryf oedd ei natur meudwyaidd a'i ymlyniad i'w filltir sgwar(cys. pers. Peter Hope Jones).

Cyflawnodd nifer o orchwylion cyflogedig achlysurol gyda'r cyrff cadwriaethol (yn benodol Cyngor Cefn Gwlad Cymru).

Yn ail hanner ei fywyd datblygodd arbenigedd mewn brioffitiau (mwsoglau a llysiau'r afu) ac yn ddiweddarach, mewn cen.

Cofnod enghreifftiol trwy ei gyfaill DB: 17/4/2007 Talyllyn, Meirion Ffynhonnell: llafar PMB Nodiadau: Peter Benoit yn dweud iddo gael Dryopteris aemula yn hollol annisgwyl wrth ochr y lon fach serth syn cysylltu... [yn ardal Talyllyn (gwarchodir y lleoliad i barchu ysbryd ceidwadol PMB]

Cofnodion amdano

golygu
  • Richard Gwyn Neale

Cofio cyfarfod o efo Geraint Thomas wrth ei dý ar lethrau Dinas Oleu. Arbenigwr diymhongar

  • Haf Meredydd

Mi ges inna gyfle flynyddoedd lawer yn ôl i fynd i weld Coed Dolybebin, Cwm Bychan, yn ei gwmni fwy nag unwaith, yn ei sgidia dydd Sul! Athrylith ym myd y planhigion, yn sicr, ac yn gwbod lle'r oedd pob math o betha'n tyfu yn Ardudwy, ei filltir sgwâr, ac yn ehangach

  • DB

Ei unig lyfr ‘poblogaidd’ a gyhoeddodd erioed (yn y ‘60au) oedd A Contribution to a Fora of Meirionnydd [3] - bu'n edifar ganddo ei gyhoeddi yn hwyrach yn ei fywyd oherwydd iddo dynnu sylw at leoliadau planhigion prin. Sylwch ar y gair ‘contribution’ - doedd o ddim yn ystyried ei hun yn gymwys i ysgrifennu “ ‘Flora’ of Meirionnydd” er ei fod ar anterth ei yrfa ar y pryd. Mae ei gofnodion botanegol a’i gasgliad o fwsoglau yn rhyfeddod i’w gweld, popeth wedi ei ffeilio mewn bocsus ‘sgidiau neu wedi eu lapio mewn hen bapur newydd!

Ei ddiddordebau

golygu

Cofnodi'r tywydd

golygu

Roedd yn gofnodwr tywydd trylwyr gydag offer syml tec-isel (cofnodi’r rhew ar bowlen ddŵr y bwrdd adar): I hope [DB] you enjoyed/survived the heat wave. Out here on the coast we did not generally get the extreme temperatures there were inland - around 22 or 23 C in shade was usual. But there was a notable exception - the 19th july when at 14:30 I recorded 33C in the shade, the highest temperature I have ever known at Barmouth. Today [17 awst 2006] it was 14C which is only about 4C warmer than an ordinary Barmouth winter day Peter Benoit

Dylunio botanegol

golygu

Roedd yn ddylunydd amatur talentog.

 
Dyluniad Peter Benoit o ffacbysen y berth fel cerdyn cyfarchion

Cofnodi cyffredinol

golygu

Sylwai ar adar, gloÿnnod byw ayb

Chwilfrydedd

golygu

Sylwai ar popeth a ddeuai i'w olwg, stampiau, mân ysgrifen ar nwyddau, tarddiad nwyddau, enwau lleoedd a'u hystyr.

Cyfeiriadau

golygu