Peter Firmin

cyfarwyddwr ffilm a aned yn Harwich yn 1928

Arlunydd a gwneuthurwr pypedau o Sais oedd Peter Arthur Firmin (11 Rhagfyr 19281 Gorffennaf 2018). Ef oedd sylfaenydd Smallfilms, ynghyd â Oliver Postgate. Fe wnaeth y ddau greu nifer o raglenni teledu poblogaidd i blant, yn cynnwys The Saga of Noggin the Nog, Ivor the Engine, Clangers, Bagpuss a Pogles' Wood

Peter Firmin
Ganwyd11 Rhagfyr 1928 Edit this on Wikidata
Harwich Edit this on Wikidata
Bu farw1 Gorffennaf 2018 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Central School of Art and Design
  • Colchester Institute Edit this on Wikidata
Galwedigaethcharacter designer, darlunydd, cyfarwyddwr ffilm Edit this on Wikidata
PriodJoan Firmin Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.peterfirmin.co.uk/ Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Firmin yn Harwich, Essex, yn 1928, a hyfforddodd yn Ysgol Celf Colchester yn Colchester. Ar ôl cwblhau ei Wasanaeth Cenedlaethol yn y Llynges Frenhinol, mynychodd Ysgol Ganolog Celf a Dylunio yn Llundain o 1949-1952. Roedd yn gweithio mewn stiwdio gwydr lliw, fel darlunydd ac fel darlithydd.[1]

Tra roedd yn dysgu yn yr Ysgol Gelf Ganolog daeth Oliver Postgate i chwilio am, fel y dywedodd Firmin: "... rhywun i ddarlunio stori ar deledu – rhywun a oedd yn brin o arian a fyddai'n gwneud llawer o ddarlunio am ychydig iawn o arian".[2] Aeth Postgate a Firmin ymlaen i ffurfio Smallfilms.

Gyrfa golygu

Roedd Firmin yn fwyaf adnabyddus fel hanner y cwmni cynhyrchu Smallfilms, a oedd yn weithgar o 1958 hyd ddiwedd y 1980au. Cynhyrchwyd rhan fwyaf o waith animeiddio Smallfilms mewn ysgubor ar dir yn berchen i Firmin yn Blean ger Caergaint yng Nghaint. Roedd Firmin yn gwneud y setiau, pypedau a chefndiroedd ar gyfer y rhaglenni, ac yn aml hefyd yn cyfrannu at wneud y synau ac effeithiau gweledol yn ystod y gwaith ffilmio.

Yn ogystal a'i waith gyda Oliver Postgate, roedd Firmin yn gwneud pypedau a rhaglenni plant eraill. Yn 1959, gyda'i wraig Joan, dyfeisiodd rhaglen o hwiangerddi ar gyfer Associated-Rediffusion yn defnyddio animeiddio byw gyda chardbord a phypedau, a elwid The Musical Box. Fe'i cyflwynwyd gan Rolf Harris ac yna gan Wally Whyton.[3]

Yn 1961, comisiynodd ITV byped arall. Tylluan fach oedd Olly Big wedi'i wneud o blu cyw iâr wedi eu gosod mewn corff wedi ei grosio. Ymddangosodd ar Smalltime, a fe'i ymunwyd ym 1962 gan Fred Barker (ci blewog a wnaed ar gyfer cynhyrchiad The Dog Watch gan Postgate/Firmin yn 1961) ac yn 1963 gan Whiffles, pyped dyfrgi, a Penelope, tylluan arall.[4]

Cyd-greodd Firmin, gyda Ivan Owen, y pyped Basil Brush yn 1962. Gwnaeth y pypedau cyntaf ar gyfer The Tree Scampies, gan ddefnyddio cynffon llwynog go iawn, gan roi'r enw 'brush' i'r cymeriad.

Ar gyfer y Diwrnod Degol yn y DU (15 Chwefror 1971), ailymddangosodd Muskit gyda Firmin a wnaeth daith i'r siopau mewn rhaglen i ysgolion ar deledu'r BBC.[5]

Parhaodd Firmin i weithio fel darlunydd. Ysgrifennodd a darluniodd llawer o lyfrau am gymeriadau Smallfilms, yn ogystal â llyfrau plant ei hunan a llyfrau ar gyfer oedolion, gan gynnwys barddoniaeth Vita Sackville-West's (ISBN 97808635027299780863502729) a Seeing Things, hunangofiant Postgate (ISBN 978-1847678416978-1847678416).

Wedi ymddeol o waith teledu, parhaodd Firmin i greu engrafiadau a phrintiau leino.[6]

Yn 1994, paratodd Firmin ddarlun ar gyfer stamp Prydeinig, SG1804, yn cynnwys cymeriadau o Noggin y Nog. Roedd yn un o gyfres yn cynnwys cymeriadau o llenyddiaeth plant Prydeinig. Cynhyrchodd rhagor o luniau ar gyfer yr ymgyrch hysbysebu i roi cyhoeddusrwydd i'r stampiau.[7][8]

Anrhydeddau golygu

Dyfarnwyd iddo anrhydedd MA gan Brifysgol Caint ar 17 Gorffennaf 1987. Yn 2011 rhoddwyd Rhyddid Dinas Gaergaint iddo fel cydnabyddiaeth o'i "waith rhagorol".[9]

Ym mis Tachwedd 2014, cyhoeddwyd byddai Firmin yn cael eu hanrhydeddu yn Ngwobrau Plant BAFTA.[10]

Bywyd personol golygu

Roedd Firmin yn briod â Joan, a weodd y Clangers o wlân pinc llachar. Cyfarfu'r ddau yn Ysgol Ganolog Celf a Dylunio yn Llundain, lle roedd Joan yn astudio rhwymo llyfrau. Priododd y cwpl yn 1952 gan fyw yn Llundain cyn symud i swydd Caint, ym 1959. Roedd ganddynt chwech o ferched:[11] Ymddangosodd un, Emily, yng ngolygfa agoriadol Bagpuss.

Roedd y teulu yn byw ar fferm yn Blean, Caint, lle cynhyrchodd Smallfilms eu rhaglenni.

Ar 1 Gorffennaf 2018, cyhoeddwyd bod Peter Firmin wedi marw yn 89 oed.[12]

Cyhoeddiadau golygu

  • Basil Brush Goes Flying, ysgrifennwyd a darluniwyd gan Peter Firmin (1969) ISBN 97807182034059780718203405
  • Stanley, the tale of the Lizard, Peter Meteyard; darluniwyd gan Peter Firmin (Andre Deutsch, 1979) ISBN 97802339707149780233970714
  • The Last of the Dragons, E. Nesbit; darluniwyd gan Peter Firmin (Macdonald, 1980) ISBN 97802339707149780233970714
  • Melisande, E. Nesbit; darluniwyd gan Peter Firmin (MacDonald, 1980) ISBN 978-0356051635978-0356051635
  • The Winter Diary of a Country Rat, ysgrifennwyd a darluniwyd gan Peter Firmin (Kaye and Ward, 1981) ISBN 0-7182-2541-40-7182-2541-4
  • Chicken Stew, ysgrifennwyd a darluniwyd gan Peter Firmin (Pelham Books, 1982) ISBN 978-0720712995978-0720712995
  • Tricks & Tales, ysgrifennwyd a darluniwyd gan Peter Firmin (Kaye and Ward, 1982) ISBN 0-7182-2600-30-7182-2600-3
  • The Midsummer Notebook of a Country Rat, ysgrifennwyd a darluniwyd gan Peter Firmin (Kaye and Ward, 1983) ISBN 0-7182-2601-10-7182-2601-1
  • Pinny and the Bird and other Pinny tales, ysgrifennwyd a darluniwyd gan Peter Firmin (Andre Deutsch, 1985) ISBN 97802339781549780233978154
  • Pinny and the Floppy Frog ISBN 97802339791519780233979151 Pinny's Party ISBN 97802339785749780233978574, ysgrifennwyd a darluniwyd Peter Firmin (Andre Deutsch, 1987)
  • My Dog Sandy, ysgrifennwyd a darluniwyd gan Peter Firmin (Andre Deutsch, 1988) ISBN 97802339819639780233981963
  • Making Faces, ysgrifennwyd a darluniwyd gan Peter Firmin (Collins Pic- Lions Publishing, 1988) ISBN 97800066288049780006628804
  • Ziggy and the Ice Ogre, Chris Powling, darluniwyd gan Peter Firmin (Heinemann, 1988) ISBN 97804349305179780434930517
  • The Jenius, Dick King Smith, darluniwyd gan Peter Firmin (Victor Gollancz, 1988) ISBN 97801413128669780141312866
  • Nina's Machines, ysgrifennwyd a darluniwyd gan Peter Firmin (A & C Black, 1988) ISBN 97800067329219780006732921
  • Boastful Mr Bear ISBN 97809475530129780947553012, Happy Miss Rat ISBN 97804404038219780440403821, Hungry Mr Fox ISBN 97809475530369780947553036, Foolish Miss Crow ISBN 97809475530439780947553043, ysgrifennwyd a darluniwyd gan Peter Firmin (Bolitha Press & Dell of NY, 1989)
  • The Land and the Garden, Vita Sackville-West, darluniwyd gan Peter Firmin (Webb & Bower, 1989) ISBN 97808635027299780863502729
  • Seeing Things: An Autobiography, Oliver Postgate; darluniwyd gan Peter Firmin, 2000 ISBN 0-330-39000-70-330-39000-7

Cyfeiriadau golygu

  1. Watson, Steve (2 Gorffennaf 2018). "The 'father' of Bagpuss: The full story". East Anglian Daily Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-07-02. Cyrchwyd 2 Gorffennaf 2018.
  2. Peter Firmin, Dragons' Friendly Society, http://www.dragons-friendly-society.co.uk/peter/pf6.htm.
  3. "Oliver Postgate and Peter Firmin". BFI. Cyrchwyd 2 Gorffennaf 2018.
  4. "Peter Firmin obituary". The Times. Cyrchwyd 2 Gorffennaf 2018.
  5. "Search Results - BBC Genome". Genome.ch.bbc.co.uk. Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2018.
  6. "Peter Firmin". Lovelys Gallery. Cyrchwyd 2 Gorffennaf 2018.
  7. "Stamps and First Day Cover". Smallfilms website. Cyrchwyd 23 September 2009.
  8. "Noggin the Nog Memorabilia – stamps". Northlands (Neil Jones). 1997–2003. Cyrchwyd 23 September 2009.
  9. "Bagpuss co-creator Peter Firmin's freedom of Canterbury". BBC News. 6 Gorffennaf 2011. Cyrchwyd 8 Mehefin 2011.
  10. "Bagpuss co-creator Peter Firmin gets Bafta honour". BBC News. 11 Tachwedd 2014. Cyrchwyd 11 Tachwedd 2014.
  11. "Saggy old cloth cat pulls in the crowds". Canterbury Adscene. Kent Regional News and Media. 9 Tachwedd 2007. tt. 4–5.
  12. "Clangers co-creator Peter Firmin dies aged 89". BBC News (yn Saesneg). 1 July 2018. Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2018.

Dolenni allanol golygu