Rolf Harris
Canwr, cyfansoddwr, arlunydd, digrifwr a chyflwynydd teledu o Awstralia o dras Gymreig oedd Rolf Harris (30 Mawrth 1930 – 10 Mai 2023). Cafodd ei eni yn Bassendean, Perth, Gorllewin Awstralia. Peintiwr portreadau o ardal Merthyr Tudful oedd ei daid, George Frederick Harris.[1] Symudodd i'r Deyrnas Unedig fel myfyriwr celf yn ystod yr 1950au.
Rolf Harris | |
---|---|
Ganwyd | 30 Mawrth 1930 Bassendean |
Bu farw | 10 Mai 2023 o cancr y pen a'r gwddf, syndrom eiddilwch Bray |
Label recordio | Columbia Records, Epic Records, Capitol Records, EMI Records |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyflwynydd teledu, arlunydd, canwr, cyfansoddwr, actor, cyfansoddwr caneuon, cyfarwyddwr ffilm, diddanwr |
Cyflogwr | |
Arddull | comedy music |
Priod | Alwen Hughes |
Plant | Bindi Harris |
Gwobr/au | CBE, Swyddogion Urdd Awstralia, Medal Canmlwyddiant, Aelod o Urdd Awstralia, MBE, OBE |
Chwaraeon |
Roedd Rolf Harris yn enwog am ganeuon fel "Tie Me Kangaroo Down, Sport" a ddaeth yn boblogaidd yn y Top 10 hits yn Awstralia. Yn America ac yn y Deyrnas Unedig bu Harris yn enwog am caneoun fel "Jake The Peg". Oedd e wastad yn chwarae didgeridoo a bwrdd wabble yn ystod ei berformiadau. Yn ystod yr 1960au ar 1970au daeth Rolf Harris yn bersonolaeth boblogaidd yn y Deyrnas Unedig yn cyflwyno rhaglenni fel "Animal Hospital" a "Rolf's cartoon club".
Yn 2013, roedd yn un o 12 o bobl a arestiwyd gan swyddogion o Operation Yewtree, a fe'i gyhuddwyd o nifer o achosion, yn dyddio o'r 1980au, o ymosod yn anweddus ar ferched ifanc. Gwadodd y cyhuddiadau ond fe'i gafwyd yn euog ar ddeuddeg achos ym Mehefin 2014. Ar 4 Gorffennaf 2014, yn 84 mlwydd oed fe'i ddedfrydwyd i bum mlynedd a naw mis yn y carchar. Fe'i ryddhawyd ar 19 Mai 2017. Gwynebodd saith cyhuddiad arall o drais rhywiol. Fe'i gliriwyd gan reithgor o 3 achos ond nid oeddent yn gallu dod i benderfyniad mewn pedwar achos arall felly fe'i ryddfarnwyd o'r cyhuddiadau.
Roedd ei wraig Alwen Hughes (ganwyd 26 Rhagfyr 1931) yn Gymraes a anwyd yn Llundain. Roedd hi'n gerflunydd a gemydd. Cyfarfu Harris tra'n astudio ym Mhrifysgol Gorllewin Awstralia yn ninas Perth. Priododd y ddau ym 1958.
Bu farw Harris o ganser yn 93 oed yn 2023.[2] Bu farw ei wraig ym mis Medi 2024. Roedd ganddi ddementia.[3]
Disgograffi
golygu- Best of Rolf Harris (1967)
- Animal Magic (1996)
- Sun Arise (1997)
- Rolf Rules OK (1999)
- King Rolf (2001)
Ffilmiau
golygu- You Lucky People (1955)
- Crash Drive (1959)
- Web of Suspicion (1959)
- The Little Convict (1979)
Teledu
golygu- Hancock's Half-Hour (1957-59)
- The Rolf Harris Show (1968-79)
- Rolf on Saturday OK? (1977)
- Rolf's Here - OK? (1981)
- Rolf's Cartoon Club (1988)
- Animal Hospital (1994)
- Amazing World of Animals (1998)
- Rolf on Art (2001)
- Rolf on African Art (2005)
- Star Portraits with Rolf Harris (2004-7)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Aled Blake (2 Mehefin 2006). "Rolf returns to Welsh family roots". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 23 Mai 2023.
- ↑ "Rolf Harris: Serial abuser and ex-entertainer dies aged 93". BBC News (yn Saesneg). 23 Mai 2023. Cyrchwyd 23 Mai 2023.
- ↑ "Gweddw Rolf Harris, Alwen Hughes wedi marw yn 92 oed". BBC Cymru Fyw. 2024-09-12. Cyrchwyd 2024-09-12.