Peter R. de Vries
Newyddiadurwr ymchwiliol a gohebydd trosedd Iseldiraidd oedd Peter Rudolf de Vries (14 Tachwedd 1956 – 15 Gorffennaf 2021).
Peter R. de Vries | |
---|---|
Peter R. de Vries yn 2017. | |
Ganwyd | Peter Rudolf de Vries 14 Tachwedd 1956 Aalsmeer |
Bu farw | 15 Gorffennaf 2021 Amsterdam |
Dinasyddiaeth | Brenhiniaeth yr Iseldiroedd |
Galwedigaeth | cyflwynydd teledu, program maker, gyrrwr rali, newyddiadurwr, colofnydd, cynhyrchydd teledu, actor, sgriptiwr, crime journalist |
Adnabyddus am | Peter R. de Vries: Crime Reporter |
Partner | Tahmina Akefi |
Plant | Royce de Vries |
Gwobr/au | Gwobr Emmy, Presenter of the Year |
Gwefan | https://www.peterrdevries.nl/ |
Chwaraeon |
Ganed yn Aalsmeer, Noord-Holland. Wedi iddo wasanaethu ym Myddin Frenhinol yr Iseldiroedd, ymunodd â'r papur newydd De Telegraaf yn yr Hâg ym 1978. Cafodd ei anfon i swyddfa'r papur yn y brifddinas Amsterdam, ac yno bu'n ysgrifennu am droseddau. Y brif stori a ddygwyd enwogrwydd iddo oedd cipio Freddy Heineken, cadeirydd a phrif weithredwr bragdy Heineken N.V., ym 1983. Ysgrifennodd de Vries ddau lyfr am yr achos: yr adroddiad ffeithiol De zaak Heineken (1983), a'r nofel De ontvoering van Alfred Heineken (1987) sydd yn seiliedig ar gyfweliadau'r awdur â'r ddau brif gipiwr. Byddai de Vries hefyd yn dilyn trywydd un arall o'r cipwyr i Baragwâi, ym 1995.[1]
Ym 1987 fe'i penodwyd yn olygydd y cylchgrawn wythnosol Aktueel, a fe drodd sylw'r cyhoeddiad hwnnw at newyddion tor-cyfraith. O 1995 i 2012, cyflwynodd y rhaglen deledu Peter R. de Vries, misdaadverslaggever, ac ymchwiliodd i nifer o lofruddiaethau, cyhuddiadau o lygredigaeth yn yr heddlu, achosion o fasnachu pobl a chyffuriau, a throseddau eraill. Defnyddiodd y rhaglen i gyhuddo Joran van der Sloot o fod yn gyfrifol am lofruddiaeth yr Americanes Natalee Holloway yn Arwba. Yn 2005 sefydlodd de Vries blaid wleidyddol, Partij voor Rechtvaardigheid, Daadkracht en Vooruitgang. Cynhaliodd arolwg barn i ganfod awydd y cyhoedd am blaid newydd, gan addo y byddai'n rhoi gorau i'r fenter os nad oedd 41% yn ei chefnogi. Penderfynodd dadsefydlu'r blaid wedi i 31% o'r rhai a gwestiynwyd wrthod y syniad.[1]
Ar 6 Gorffennaf 2021 cafodd de Vries ei saethu sawl gwaith mewn stryd ger y Leidseplein yng nghanol Amsterdam, wedi iddo adael stiwdio teledu ar ôl ymddangos ar sioe sgwrs.[2] Bu farw o'i anafiadau yn yr ysbyty naw diwrnod yn ddiweddarach, yn 64 oed.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) "Peter de Vries, award-winning Dutch investigative journalist renowned for his probes into the criminal underworld – obituary", The Daily Telegraph (15 Gorffennaf 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 15 Gorffennaf 2021.
- ↑ (Saesneg) Senay Boztas, "Dutch crime reporter 'fighting for his life' after Amsterdam assassination attempt", The Daily Telegraph (7 Gorffennaf 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 15 Gorffennaf 2021.
- ↑ (Saesneg) "Dutch crime reporter Peter de Vries dies after being shot in the head", The Daily Telegraph (15 Gorffennaf 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 15 Gorffennaf 2021.