Mae Syr Philip Redmond CBE (ganwyd 10 Mehefin 1949) yn gynhyrchydd teledu Saesneg ac yn ysgrifennwr sgrin o Huyton, Lloegr. Mae'n adnabyddus am greu'r cyfresi deledu Grange Hill, Brookside a Hollyoaks.[1] Mae hefyd wedi cynghori tîm cynhyrchu Rownd a Rownd.[2]

Phil Redmond
Ganwyd10 Mehefin 1949 Edit this on Wikidata
Huyton Edit this on Wikidata
Man preswylTirley Garth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaethsgriptiwr, cynhyrchydd teledu Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol John Moores, Lerpwl Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE, Marchog Faglor Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Llwyddodd Redmond yn ei arholiad "11-plus", ond mynychodd Ysgol Gatholig St Kevin yn Northwood, Kirkby (bellach yn Ysgol Uwchradd Gatholig yr Holl Saint, Kirkby). Yr oedd ei fam yn lanhawr a'i dad yn yrrwr bysiau.

Gadawodd yr ysgol gyda phedair lefel O ac un Lefel A a hyfforddodd i fod yn syrfëwr meintiau. Astudiodd Gymdeithaseg ym Mhrifysgol Lerpwl.

Gyrfa golygu

Ysgrifennodd Redmond benodau i gomedi sefyllfa ITV Doctor in Charge a chyfresi plant The Kids from 47A. Daeth yn adnabyddus am greu nifer o gyfresi teledu poblogaidd megis Grange Hill (BBC One, 1978–2008), gyda syniadau'r penodau cyntaf yn seiliedig ar ei amser yn St Kevin, Brookside (Channel 4, 1982-2003), Rownd a Rownd (S4C 1995—) a Hollyoaks (Channel 4, 1995—).

Am dros ugain mlynedd bu hefyd yn rhedeg ei gwmni cynhyrchu annibynnol ei hun, Mersey Television, cyn ei werthu yn 2005. Creodd Redmond hefyd y ddrama gyfreithiol, The Courtroom, a gafodd ei chanslo ar ôl 38 pennod.

Yn 2013, cyhoeddwyd hunangofiant Redmond Mid-Term Report. Rhyddhaodd ei nofel gyntaf, Highbridge, yn 2016.[3]

Anrhydeddau golygu

Mae Redmond yn Gymrawd Llysgennad ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl.

Ym mis Tachwedd 2010 dyfarnwyd iddo radd Doethur er Anrhydedd mewn Llythyrau (D.Litt) o Brifysgol Caer.

Ef yw Cadeirydd Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl a Phanel Cynghori Annibynnol Dinas Diwylliant y DU.

Ym mis Chwefror 2012, datganodd Redmond ddiddordeb mewn sefyll fel Maer Etholedig Lerpwl.

Fe'i penodwyd yn Gomander Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) yn yr Anrhydeddau Pen-blwydd 2004 am wasanaethau i ddrama, cafodd ei urddo'n farchog yn yr Anrhydeddau Pen-blwydd 2020 am wasanaethau i ddarlledu a'r celfyddydau yn y rhanbarthau.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Birthday Honours 2020: Marcus Rashford, Joe Wicks and key workers honoured". BBC News (yn Saesneg). 2020-10-10. Cyrchwyd 2022-03-25.
  2. Barry, Sion (2006-03-18). "Nant's new £8m deal for Rownd a Rownd". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-03-25.
  3. "Highbridge by Phil Redmond review – drugland drama from the creator of Hollyoaks". the Guardian (yn Saesneg). 2016-01-14. Cyrchwyd 2022-03-25.