Philip Dudley Waller
Chwaraewr rygbi o Loegr a chwaraeodd dros Gymru oedd Philip Dudley Waller (28 Ionawr 1889 – 14 Rhagfyr 1917).
Philip Dudley Waller | |
---|---|
Ganwyd | 28 Ionawr 1889 Caerfaddon |
Bu farw | 14 Rhagfyr 1917 Arras |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru |
Safle | Clo |
Ganwyd Phil Waller fel y caiff ei alw yn Odd Down, Caerfaddon ar yr 28 Ionawr 1889, ond erbyn troad y ganrif roedd ef a'i deulu wedi symud i Gaerfyrddin, a chychwynodd ei yrfa rygbi gan chwarae i glwb rygbi'r ysgol (Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth). Dechreuodd weithio fel prentis beiriannydd i'r Alexandra Docks and Railway Company yng Nghasnewydd pan oedd yn 17 oed, gan weithio dan y cyn-chwaraewr rygbi Tom Pearson. Ni fu Pearson yn hir cyn ei recriwtio i dîm rygbi Casnewydd[1], a chafodd ei ddyrchafu i'r tîm cyntaf yn ystod tymor 1906-7. Enillodd ei gap cyntaf i Gymru yn ystod tymor 1908-9[2], gan chwarae ymhob un o'r 5 gêm ryngwladol. Enillodd y tîm cenedlaethol y gamp lawn. Bu'r tîm hefyd yn fuddugol mewn gêm glos iawn yn erbyn tîm cenedlaethol Awstralia.
Chwaraeodd i'r tîm cenedlaethol yn nhymor 1909-1910 hefyd, ond collodd ei le yn y tîm wedi gêm Cymru yn erbyn Ffrainc ar Ddydd Calan 1910. Roedd y dewiswyr am ganolbwyntio ar y sgrym, a rhoddwyd ei le i Joe Pugsley a oedd yn well sgrymiwr.
Cafodd ei ddewis i fod yn rhan o dim Prydain i deithio i hemisffer y de, gan chwarae ymron pob un o'r pedair gêm ar hugain, gan gynnwys y tair gêm brawf.
Penderfynodd Phil Waller aros yn Johannesburg wedi'r daith, gan derbyn swydd peiriannydd yn y fwrdeistref, a bu'n gweithio yno am y pum mlynedd nesaf, gan chwarae i'r Wanderers, y tîm rygbi lleol. munodd a Magnelwyr De Affrica [South African Heavy Artillery] ym mis Awst 1915, gan hyfforddi ym Mhrydain gyda'r Magnelwyr ym Mexhill-on-Sea, dwyrain Sussex. Tra ym Mhrydain, chwaraeodd ddwy gêm rygbi bwysig i'r Fagnelwyr yn erbyn pymtheg Milwrol Seland Newydd.
O fewn pythefnos i'r ail gêm, gadawodd y Magnelwyr am y ffrynt gorllewinol, ac yn ystod yr ugain mis y bu yno, cymerodd ran mewn brwydrau'r Somme, Arras, Ypres a Cambrai. Cafodd ei ddyrchafu'n is-gapten ym 1917. Cafodd ei ladd gan sielio strae wrth iddo deithio adref ar seibiant ar ôl Brwydr Cambrai. Fe'i claddwyd ym Mynwent Gornel y Groes Goch ym Meugny, ar y ffordd rhwng Cambrai a Bapaume.
Llyfryddiaeth
golygu- Gwyn Prescott, Call them to Rememberance: the Welsh rugby internationals who died in the Great War (Caerdydd, 2014)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Philip Dudley Waller - History of Newport RFC". Cyrchwyd 2015-09-07.
- ↑ "New Welsh Caps - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1908-12-12. Cyrchwyd 2015-09-07.