Dinas yn nwyrain Macedonia oedd Philippi (Groeg: Φίλιπποι/ Philippoi). Saif tua 20 km i'r gogledd-orllewin o ddinas bresennol Kavála.

Philippi
Mathdinas hynafol, safle archaeolegol, polis Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlPhilip II, brenin Macedon Edit this on Wikidata
LL-Q150 (fra)-Xenophôn-Philippes.wav Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadKrinides Edit this on Wikidata
SirKavala Municipality Edit this on Wikidata
GwladGwlad Groeg Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau41.012072°N 24.284576°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle Treftadaeth y Byd, listed archaeological site in Greece Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganPhilip II, brenin Macedon Edit this on Wikidata
Manylion
Lleoliad Philippi

Sefydlwyd y ddinas yn 356 CC gan Philip II, brenin Macedon, ar safle hen ddinas Crenides (Κρηνἱδες). Datblygodd i fod yn ddinas bwysig. Yn y cyfnod Rhufeinig, roedd Philippi ar y Via Egnatia. Bu'n Apostol Paul yma, y tro cyntaf iddo ymweld ag Ewrop. Yma yr ymladdwyd Brwydr Philippi yn 42 CC rhwng dwy fyddin Rufeinig, un dan ddau o lofruddion Iŵl Cesar, Gaius Cassius Longinus a Marcus Junius Brutus, a'r llall dan Marcus Antonius a mab mabwysiedig Cesar, Gaius Octavianus (yn ddiweddarach yr ymerawdwr Augustus Cesar).

Tua'r flwyddyn 60 OC, ysgrifennodd yr Apostol Paul lythyr at Gristnogion Philippi, sef Llythyr Paul at y Philipiaid.

Diboblogwyd y ddinas wedi i Ymerodraeth yr Otomaniaid goncro'r ardal yn y 14g.

Gwedfillion canol Philippi