Yr Apostol Paul
apostol, merthyr a sant Cristnogol
(Ailgyfeiriad oddi wrth Apostol Paul)
Yr Apostol Paul (neu Paul o Tarsus neu Sant Paul), ynghyd â Sant Pedr, oedd y cenhadwr mwyaf nodweddiadol o'r Gristnogaeth gynnar. Does dim tystiolaeth i ddangos fod Paul wedi cyfarfod Iesu o Nasareth erioed.[1] Yn wahanol i'r Deuddeg Apostol, daeth i'r grefydd drwy weledigaeth o'r Iesu[2] a phwysleisiodd fod ei awdurdod apostolaidd wedi ei seilio ar ei weledigaeth. Roedd yn enedigol o ddinas Tarsus yn nhalaith Rufeinig Cilicia yn Asia Leiaf, ac felly fe'i gelwir yn aml yn "Paul o Tarsus". Dywedir i Paul dderbyn y Efengyl gan "y datguddiad o Iesu Grist";[3] yn ôl Actau'r Apostolion, cymerodd y tröedigaeth le tra'r roedd yn teithio ar y ffordd i Damascus.
Yr Apostol Paul | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | שאול התרסי ![]() c. 5 ![]() Tarsus ![]() |
Bu farw | c. 67, c. 64, c. 65 ![]() o pendoriad ![]() Rhufain ![]() |
Man preswyl | Tarsus, Jeriwsalem, Damascus, Antiochia, Salamis, Paphos, Antoch, Konya, Lystra, Derbe, Alexandria Troas, Philippi, Thessaloníci, Veroia, Athen, Corinth, Effesus, Miletus, Tyrus, Acre, Caesarea Maritima, Sidon, Myra, Kaloi Limenes, Siracusa, Rhufain ![]() |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol ![]() |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, diwinydd, cenhadwr, crefyddwr, rabi, teithiwr, crefftwr ![]() |
Swydd | Apostol ![]() |
Adnabyddus am | Llythyrau Paul ![]() |
Prif ddylanwad | Gamaliel, Iesu ![]() |
Dydd gŵyl | 12 Gorffennaf, 10 Chwefror, 25 Ionawr, 18 Tachwedd ![]() |
Llythyrau Paul yn y Testament NewyddGolygu
- Llythyr Paul at y Rhufeiniaid
- Llythyr Cyntaf Paul at y Corinthiaid
- Ail Lythyr Paul at y Corinthiaid
- Llythyr Paul at y Galatiaid
- Llythyr Paul at yr Effesiaid
- Llythyr Paul at y Philipiaid
- Llythyr Paul at y Colosiaid
- Llythyr Cyntaf Paul at y Thesaloniaid
- Ail Lythyr Paul at y Thesaloniaid
- Llythyr Cyntaf Paul at Timotheus
- Ail Lythyr Paul at Timotheus
- Llythyr Paul at Titus
- Llythyr Paul at Philemon
CyfeiriadauGolygu
- ↑ The Complete Gospels, Robert J. Miller golygydd, nodiadau ar Matthew 26:48: "The fact that Judas needs to use a sign indicates that Jesus was not known by face in Jerusalem." Presumably, at that time, Paul was in Jerusalem studying under the famous Pharisee Gamaliel.
- ↑ Corinthiaid 15:8-9
- ↑ Galatiaid, 1:11–12